Arweinydd Plaid Cymru yn ymweld ag Arfon cyn etholiadau’r Senedd

Mae Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, yn awyddus i gwrdd â thrigolion Arfon cyn etholiadau’r Senedd ym mis Mai

Ar Goedd
gan Ar Goedd

Bydd arweinydd Plaid Cymru yn ymuno â Siân Gwenllian, yr Aelod lleol yn Senedd Cymru, i gwrdd â phobl leol.

 

Mae’r cyfarfod wedi cael ei ddisgrifio fel “cyfle i ofyn cwestiynau i Arweinydd Plaid Cymru ac i drafod materion lleol sy’n bwysig i Arfon.”

 

Bydd y digwyddiad, a gynhelir ar Ebrill 1 2021, yn cael ei gynnal ar-lein yn unol â chyfyngiadau Covid-19.

 

Mae’r sesiwn wedi cael ei ddisgrifio gan Blaid Cymru fel cyfle i drigolion lleol holi’r arweinydd am lu o faterion, gan gynnwys cartrefi, yr argyfwng ail gartrefi, dyfodol Ysbyty Gwynedd, Ysgol Feddygol Bangor, swyddi lleol, a mwy!

 

Bydd etholiadau Senedd Cymru yn cael eu cynnal ddydd Iau 6 Mai 2021 i ethol 60 aelod i Senedd Cymru, a hwn fydd y chweched etholiad i’r Senedd.

 

Mae gan bobl Dyffryn Nantlle ac Arfon gyfle i ethol Aelod o’r Senedd i’w cynrychioli ar lefel etholaethol, ynghyd ag ethol pedwar Aelod i’w hethol ar y rhestr ranbarthol ac i ethol Comisiynydd Heddlu a Throsedd Heddlu Gogledd Cymru.

 

I dderbyn diweddariadau am y digwyddiad, gall trigolion lleol gadw llygad ar y digwyddiad Facebook, ond dylai’r rhai sy’n bwriadu mynychu’r cyfarfod gofrestru yma.

 

Mae gwasanaeth cyfieithu ar gael i’r cyhoedd trwy gydol y sesiwn.