Artist y Dyffryn

Guto yn dilyn yn ôl troed ei hen-daid

angharad tomos
gan angharad tomos
Clawr y comic Hwyl gan Ifor Owen
Helfa Pasg - stori Guto

Mae pawb yn hoffi cartŵns, ac mae gan Ddyffryn Nantlle ei chartwnydd ifanc ei hun – neb llai na Guto Owen, sy’n 11 mlwydd oed ac yn byw ym Mhenygroes. Fo enillodd y Wobr Gyntaf yn Eisteddfod yr Urdd yn y gystadleuaeth creu tudalen o gomic i Flwyddyn 7, 8 a 9.

Llongyfarchiadau iddo, ac am gael Gwobr Goffa Cen Williams. Ond faint sy’n sylweddoli fod y ddawn arlunio hon yn y teulu eisoes? Hen daid Guto oedd yr artist Ifor Owen o Lanuwchllyn. Caiff ei gofio fel awdur y comic Cymraeg ‘Hwyl!’ fu’n difyrru plant yn ôl yn y 1960au. Da iawn Guto am barhau’r traddodiad, a dal ati i’n difyrru!