Arddangosfa Awyr Agored

Cyfle i weld llythyrau canrif oed

angharad tomos
gan angharad tomos
Llechi-Silyn-3

Y llechi ym Mrynllidiart

Mae arddangosfa go arbennig i’w gweld ym Mrynllidiart, Cwm Silyn y dyddiau hyn, a does dim oriau agor na chau arni.

Daeth Angharad Tomos ar draws lythyrau caru Silyn Roberts (1871 – 1930) i’w wraig Mary yn yr archifdy, ac mae wedi rhoi dyfyniadau ohonynt ar lechen.

Credai fod hynny’n addas gan mai ym Mrynllidiart y sgwennwyd hwy, rhwng 1897 a 1899.

Mae dyfyniadau hwy o’r llythyrau mewn llyfr ar y safle, Llyfr Du Brynllidiart.

Yr unig beth a ofynnir i’r ymwelydd ei wneud yw nodi ei enw ar y llyfr a’i roi yn ol yn y bocs ar gyfer yr ymwelydd nesaf.

Bydd taith gerdded ‘O Nebo i Frynllidiart’ ar Hydref 2il. Cysylltwch a’r Orsaf am fanylion a rhowch eich enw i Gwion.