Angharad Tomos ar restr fer Gwobrau Tir na n-Og 2021

Nofel Y Castell Siwgr yn cyrraedd y rhestr fer

gan Llio Elenid
Angharad-TomosHedydd Ioan

Rhestr fer Gymraeg Uwchradd

Mae nofel ddiweddaraf Angharad Tomos, Y Castell Siwgr, wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Tir na n-Og. Cyhoeddwyd ar raglen Heno ar S4C bod y nofel sy’n ymdrin â chaethwasiaeth wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer llyfrau Cymraeg yn y categori uwchradd.

Dyma flas ar farn y beirniaid – “Teimlwn fod y nofel hon yn mynd â ni i dir newydd heriol gyda stori’r ddwy ferch ifanc, Dorcas a Yamba, ac er bod dwy ran i’r nofel mae’r cysylltiadau rhyngddynt yn cryfhau’r dweud … Mae’r gyfrol hon yn gyfraniad pwysig iawn i lenyddiaeth Cymru a fydd yn apelio at bobl ifanc ac oedolion.”

Meddai’r awdur o Benygroes, “Dw i yn ei hystyried yn fraint fawr fod Y Castell Siwgr ar restr fer Tir na n-Og 2021. Mae yn un o’r llyfrau anoddaf i mi ei sgwennu. Yn rhannol, am nad dychmygu’r profiadau dirdynnol wnes i, ond eu cymryd o straeon go iawn am gaethweision. Fy ofn oedd na fyddai yn berthnasol gan ei bod yn stori 200 oed, ond wedi llofruddiaeth George Floyd, daeth yn enbyd o berthnasol. Dw i ddim yn credu y byddwn i wedi ei gorffen chwaith oni bai am y cyfnod clo. A dweud y gwir, falle bod ychydig o flas y cyfnod clo arno. Wrth sgwennu stori Dorcas – yn gaeth yng Nghastell y Penrhyn – diau fod peth o rwystredigaeth y clo wedi treiddio i mewn i’r nofel. Gobeithio bydd y nofel yn codi ymwybyddiaeth pobl o hiliaeth.”

Sefydlwyd Gwobrau Tir na n-Og yn 1976 er mwyn gwobrwyo a hyrwyddo’r goreuon ymysg llyfrau plant a phobl ifanc yng Nghymru. Ymhlith enillwyr y gorffennol mae T. Llew Jones, Manon Steffan Ros, Bethan Gwanas a Myrddin ap Dafydd. Mae Angharad Tomos eisoes wedi dod i’r brig yn 1986 am Y Llipryn Llwyd, ac yn 1994 am Sothach a Sglyfath.

Enwebeion eraill 2021 yw –

Cynradd – Ble Mae Boc – Ar Goll yn y Chwedlau gan Huw Aaron (Y Lolfa), Mae’r Cyfan i Ti gan Luned Aaron (Atebol) a Sw Sara Mai gan Casia Wiliam (Y Lolfa).

Uwchradd – Y Castell Siwgr gan Angharad Tomos (Gwasg Carreg Gwalch), Llechi gan Manon Steffan Ros (Y Lolfa) a #helynt gan Rebecca Roberts (Gwasg Carreg Gwalch).

Y Panel beirniadu ar gyfer y gwobrau Cymraeg eleni oedd Hywel James (Cadeirydd y panel a chyn-Brif Lyfrgellydd Cyngor Gwynedd), Morgan Dafydd (sylfaenydd gwefan Sôn am Lyfra), Alun Horan (cynhyrchydd teledu, Tinopolis) a Nia Morais (awdur a chynorthwyydd dysgu).

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ym mis Mai.

I wylio fideo o ddarlleniad o Y Castell Siwgr gan Angharad Tomos, cliciwch yma.