Taith gerdded wedi’r cyfnod clo

Cyfle i ddod ynghyd a mwynhau yn yr awyr agored ar ôl pythefnos adref

greta
gan greta
Mynydd-mawr-2

Mynydd-mawr-2

Bydd y cyfnod clo byr yn dod i ben cyn bo hir yng Nghyrmu a be’ well na thaith gerdded i gopa mynydd i godi calon.

 

Bydd y daith yn cael ei harwain gan Swyddog Awyr Agored Yr Orsaf sef Andy Collins ac mae’n awyddus i gyfarfod mwy o drigolion y Dyffryn a rhoi cyfle i bobl gymdeithasu wedi pythefnos o orfod aros adref.

Mae’r daith wedi ei gynllunio’n drylwyr gan Andy, sy’n gerddwr profiadol ac wedi arfer tywys pobl ar deithiau cerdded.

Bydd mesuriadau yn eu lle er mwyn sicrhau bod y daith yn dilyn yr arweiniad cenedlaethol yn ymwneud â Covid-19. Bydd angen i bawb gadw pellter cymdeithasol ar y daith ac mae’n hanfodol archebu lle o flaen llaw. Felly, cyntaf i’r felin!

Bydd y daith yn dechrau o bentref y Fron cyn dringo llethrau Mynydd Mawr (neu Mynydd Eliffant i’r bobl leol) i’r copa ac yna’n ôl i lawr i Fron i orffen y daith. Mae hyd y daith tua 10km a bydd yn cymryd tua 5 awr o’r dechrau i’r diwedd.

Fel unrhyw daith i gopa mynydd, bydd angen i bawb sicrhau bod ganddynt esgidiau cerdded addas, dillad cynnes, côt law, digon o ddŵr a phecyn cinio.

Os ydych chi’n awyddus i ymuno ar y daith Ddydd Mawrth nesaf (10/11/20), cysylltwch â Andy drwy ebost i archebu lle: andy.yrorsaf@gmail.com