Taith o Gaerdydd i Ddinbych, i godi arian i Tarian Cymru.

Taith yr Urdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol – #taithurddCCC 

Mali Llyfni
gan Mali Llyfni

Y mis hwn, buaswn i fel llysgennad y Coleg Cymraeg eleni yn paratoi wythnos yn Eisteddfod Yr Urdd yn Ninbych. Ond gyda Covid-19 yn amharu ar bethau, roedd yn rhaid addasu, fel nifer o ddigwyddiadau a mudiadau eraill, er mwyn gwneud yn saff ein bod yn casglu arian tuag at elusen o’n dewis ni. Yn reddfol, oherwydd y sefyllfa, dewiswyd Tarian Cymru gan y llysgenhadon.

Y nod ydy casglu’r holl filltiroedd y gallwn ni fel llysgenhadon a staff y Coleg Cymraeg gerdded o Gaerdydd i Ddinbych dan amodau’r Llywodraeth yn ein hardaloedd lleol ni, gan gasglu arian ar y ffordd. Yn barod rydym wedi cyrraedd Dinbych, ond sawl gwaith eto y gallwn ni fynd cyn diwedd wythnos y Sulgwyn?

Ar hyd y daith, rydym yn gobeithio casglu £200 o bunnoedd tuag at Tarian Cymru, sef, ymgyrch sy’n codi arian i roi offer gwarchodol i weithwyr iechyd a gofal yng Nghymru.

Os hoffech chi gyfrannu neu noddi fi a’r llysgenhadon eleni, mae modd gwneud drwy ddilyn y linc. Mae pob ceiniog yn cyfri, ac mi fuasem ni’n gwerthfawrogi yn fawr iawn.

Cadwch yn saff, a diolch am eich cefnogaeth.