Swyddog DyffrynNantlle360 CFFI Dyffryn Nantlle 

Dewch i adnabod Swyddog DyffrynNantlle360 CFFI Dyffryn Nantlle am y flwyddyn 2020/2021.

Gwen Th
gan Gwen Th
Anni

Swyddog DyffrynNantlle360 CFFI Dyffryn Nantlle

Unwaith eto eleni, mae Clwb Ffermwyr Ifanc Dyffryn Nantlle wedi penodi Swyddog DyffrynNantlle360. Anni sydd wedi ymgymryd â’r swydd eleni ac Anni fydd yn gyfrifol am rannu holl newyddion y Clwb gyda chi ddarllenwyr a chyfranwyr DyffrynNantlle360 yn ystod y flwyddyn.

Mae Anni eisoes wedi cyhoeddi canlyniadau’r Clwb yn Ffair Aeaf y Sir ond, cyn iddi gyhoeddi mwy, es ati i holi ambell i gwestiwn i Anni er mwyn i ni ddod i’w hadnabod hi ychydig yn well.

1. Beth yw dy enw llawn? 

Anni Grug Evans

2. Beth yw dy oedran? 

12

3. Ym mha flwyddyn y gwnes di ymaelodi gyda’r Clwb? 

2019

4. Beth yw dy hoff beth am fod yn aelod o’r Ffermwyr Ifanc? 

Y cyfleoedd sydd i drio pethau newydd.

5. Beth yw dy ddiddordebau? 

Coginio

6. Beth yw dy hoff raglen deledu neu ffilm? 

F.R.I.E.N.D.S

7. Beth yw dy hoff fwyd? 

Pitsa

8. Beth yw dy gas bwnc yn yr ysgol? 

Mathemateg

9. Pan fydd y Clwb yn cael ail gychwyn, beth wyt ti yn edrych ymlaen ato fwyaf? 

Cael gweld pawb eto a chael trio mwy o bethau newydd

10. Sut fyset ti yn gwerthu’r Ffermwyr Ifanc i ffrind sydd ddim yn aelod? 

Mae bod yn aelod o’r Ffermwyr Ifanc yn rhoi cyfle i ni drio llawer o bethau newydd a gwneud ffrindiau newydd.

Pob lwc i chdi Anni yn dy swydd!