Sion Parry yn ymuno i’r Fêl-CPD Nantlle Vale

CPD Nantlle Vale

Begw Elain
gan Begw Elain

‼️Chwaraewr newydd yn ymuno i’r Vale‼️

⚽️?Sion Parry yn ymuno gyda’r clwb.?⚽️

Sion Parry yn ymosodwr sydd wedi profi ei hun i fod yn sgoriwr ar sawl lefel. Sion yn ymuno o dîm Bangor 1876 ac yn flaenorol o Borthmadog a Llanystumdwy.

⬇️Gair gan Sion Eifion…⬇️

“Dwi’n falch o gyhoeddi fod Sion yn ymuno a ni yn y Fêl. Mae Sion yn chwaraewr dwi’n adnabod yn dda a dwi’n falch iawn o gael gweithio efo fo eto. Mae ganddo ddawn naturiol sgorio goliau y buasai unrhyw dîm yn elwa ohono! Mae o yn mynd i fod yn rhan mawr o’r tymor i ddod gyda’r garfan rwan yn dechrau siapio. Croeso mawr Sion ac edrych ymlaen i’w weld ar Faes Dulyn yn fuan!”

Croeso i’r clwb Sion?

#Cmonyfêl