Dim Sioe? Dim Problem!

Bridwyr ifanc yn benderfynol o arddangos stoc yn ystod y cyfnod clo.

Margaret Roberts
gan Margaret Roberts

Dyma fideo o Gwion Fôn a Sion Ifan, Pontllyfni, yn arddangos un o’i meheryn, Tom.

Fel arfer, yn ystod wythnos gyntaf o’r gwyliau’r haf, byddai’r ddau wrthi’n brysur yn cystadlu lawr yn Llanelwedd. Ond, eleni, bu’n rhaid i gaeau eu cartref, Tŷ Mawr, wneud y tro!

Defaid Mynydd Cymreig Balwen mae’r hogiau yn eu cadw, ac yn colli cystadlu yn y Sioe fawr, yn ogystal a’r holl sioeau lleol yr haf yma.

Ffilmiwyd y fideo yma i fod yn rhan o gystadleuaeth ‘Bridwyr y Buarth’ y Sioe.