gan
Elen Williams
Ar nos fecher, y 12fed o Chwefror, yn Ysgol Syr Hugh Owen yn Nghaernarfon, fe gymerodd aelodau y clwb ran yn nghystadleuaeth Siarad Cyhoeddus y Sir. Roedd y cystaldaethau yn amrywio o ddarllen darn o nofel i ymgeisio am swydd a chystadleuaeth i fod yn aelod hyn ac aelod iau y flwyddyn ac yr ennillydd yn mynd ymlaen i gynrychioli CFFI Eryri mewn gwahanol ddigwyddiadau yn y sir.
Llongyfarchiada’ mawr i’r aelodau ar eu llwyddiant!
2il = Catrin Cwmbran = Ymgeisio am Swydd
2il = Gwen, Catrin ac Elliw = Ar y Newyddion
2il = Elliw, Begw ac Elan = Tîm Dan 14
Fe fydd Gwen yn aelod o’r tîm dan 26 fydd yn mynd ymlaen i Gymru ac Elan yn aelod o’r tîm dan 14