✨Rali Rithiol✨

Elen Williams
gan Elen Williams

Gyda Rali Gwythrian 2020 wedi ei gohirio am flwyddyn, nid oeddem ni eisiau ei anghofio felly cawsom Rali Rithiol yn ei lle ar Ddydd Sadwrn, 23ain o Fai.

Roedd amrywiaeth o gystadleathau ar gael sef coginio ar y testyn ‘Rhywbeth Melys’ a ‘Rhywbeth Sawrus’, lluniau ar y testyn ‘Adref’ neu ‘Gobaith’, eitem wedi ei ailgylchu, creu rhywbeth allan o ddeunyddiau naturiol a chreu arwydd gyda neges codi calon neu diolch i’r gweithwyr allweddol.

Llongyfarchiadau i Elliw Cwmbran am ddod yn 2il yn y gystadleuaeth ffotograffiaeth ar y testun ‘Gobaith’ ac i Gwion am ddod yn 3ydd.

Daeth y Clwb yn gydradd 6ed gyda Chlwb Caernarfon.

Llongyfarchiada’ i bawb a diolch i Swyddogion y Sir am drefnu ?? Pawb yn edrych ymlaen at Rali Gwythrian 2021 ?✨