Ailddechrau blwyddyn ysgol yn opsiwn i addysg yng Ngwynedd

Mae sawl opsiwn yn cael eu hystyried gan Gyngor Gwynedd i leihau effaith y coronafeirws ar blant

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Rhai o ddisgyblion Ysgol Llanllyfni

Mae Arweinydd Cyngor Gwynedd wedi dweud ei fod yn bryderus iawn am yr effaith y gallai cyfnod estynedig i ffwrdd o’r ysgol oherwydd y coronafeirws ei chael ar ddyfodol disgyblion, a bod sawl opsiwn yn cael eu hystyried gan gynnwys cadw rhai blynyddoedd yn ôl.

Mewn cyfweliad fideo arbennig gyda golwg360 roedd Dyfrig Siencyn, Arweinydd Cyngor Gwynedd, yn ateb eich cwestiynau chi – bobol Gwynedd – am ymateb y sir i argyfwng y coronafeirws.

“Dwi yn gobeithio yn arw y byddwn ni’n gallu gweld datrysiad i hyn yn fuan, neu mae arna i ofn bod hyn yn mynd i gael effaith ddifrifol ar ein plant ni”, meddai Dyfrig Siencyn.

“Dwi’n bryderus iawn bod plant yn colli allan ar eu haddysg. Nid yn unig ar yr addysg ffurfiol, ond hefyd ar yr elfen gymdeithasol a’r profiadau maen nhw’n eu derbyn yn yr ysgol.

“Dwi’n wirioneddol bryderus y galle plant fod yn dioddef yn y dyfodol o ganlyniad i hyn.

Er ei bryderon, diolchodd yr Arweinydd i’r athrawon a’r staff am eu gwaith caled yn y cyfnod ansicr yma yn darparu gwaith i ddisgyblion dros y we.

Yr opsiynau sy’n cael eu hystyried

Mae Arweinydd y Cyngor yn cydnabod bod llawer o heriau’n wynebu’r sir wrth geisio ei gwneud hi’n ddiogel i blant ddychwelyd i’r ystafell ddosbarth, ac na fyddai’n ymarferol gorfodi plant i ddilyn y rheol dwy fedr na’u gorfodi i wisgo mygydau.

“Mae sawl opsiwn gwahanol yn cael eu hystyried er mwyn lleihau’r effaith. Efallai y bydd yn rhaid cynnal dosbarthiadau llawer iawn llai.”

“Mae’n bosib y bydd yn rhaid cymryd rhai blynyddoedd yn ôl, ac mae’n bosib bydd rhaid addasu oriau ysgol – rhai plant yn mynd i’r ysgol yn y bore a rhai yn mynd yn y prynhawn.”

Gwyliwch y cyfweliad llawn yma:

Dyfrig Siencyn yn ateb eich cwestiynau chi am ymateb y sir i argyfwng y coronafeirws.

Dyfrig Siencyn, Arweinydd Cyngor Gwynedd, yn ateb eich cwestiynau chi am ymateb y sir i argyfwng y coronafeirws.

Posted by DyffrynNantlle360 on Thursday, 14 May 2020