Pobl ifanc Dyffryn Nantlle-awydd ffilmio?

greta
gan greta

Be’ am drio rhywbeth newydd?

Rydym yng nghanol sefyllfa heriol ar y funud, gyda phawb yn gorfod aros adref er mwyn cadw’n saff.

Ydy, mae’n gyfnod anodd ac mae cadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau yn ogystal â chadw’n bositif yn bwysicach nag erioed.

Mae criw Yr Orsaf wedi sefydlu prosiect newydd er mwyn ceisio adlewyrchu bywydau a theimladau pobl ifanc Dyffryn Nantlle yn ystod y cyfnod hwn.

Y bwriad ydy casglu clipiau fideo byr gan unigolion yn rhoi darlun syml a sydyn o sut maent yn byw eu bywydau ac yn ymdopi ar hyn o bryd.

Y gwir yw, mae nifer o blant, pobl ifanc ac oedolion (pawb!) yn siwr o deimlo rhyw fath o ansicrwydd rhywbryd yn ystod y cyfnod hwn, ac mae hynny’n iawn.

Mae’n beth da i rannu ein teimladau a dangos ein emosiynau.

Felly, beth amdani? Ffilmia dy hun yn dweud neu’n dangos beth rwyt wedi bod yn ei wneud a siarada am sut ti’n teimlo- os tisho. Os ddim, be’ am sgwennu ar ddarn o bapur a dangos hwnnw i’r camera?

Neu be’ am ffilmio dy frawd neu dy chwaer neu dy fam neu dy dad?

Does dim angen iddo fod yn fawreddog nag yn rywbeth ‘amazing’…dim ond be’ bynnag tisho fo fod.

Ewch amdani, a gobeithio gawn ni gip-olwg i mewn i fywydau pobl ifanc Dyffryn Nantlle!

Anfonwch eich clip i : daniel@yrorsaf.cymru