Ar gychwyn y Cyfnod Clo, daeth yn amlwg nad oedd modd i bapur bro Lleu, nag unrhyw bapur bro arall yng Nghymru, weithredu fel yr arfer. Oherwydd hynny, roedd gofyn am greadigrwydd a hyblygrwydd wrth gynllunio, er mwyn cynnal y gwasanaeth gwerthfawr hwn.
Covid-19: risg a chyfle i bapurau bro
Er i’r arfer o gyfarfod a thrafod, plygu a dosbarthu ddod i ben, mae’r amgylchiadau wedi ysgogi rhai papurau bro, fel Lleu, i ymateb yn greadigol i’r her a manteisio ar blatfformau digidol.
Roedd y papur bro hwn ymhlith dros 30 o bapurau benderfynwyd troi at gyhoeddi rhifynnau digidol yn ystod y Cyfnod Clo gan sicrhau bod modd i drigolion Dyffryn Nantlle dderbyn gwasanaeth di-dor o’r papur drwy gydol y cyfnod ansicr.
Bellach, mae Lleu wedi ailafael yn yr awenau gan gychwyn cyhoedd rhifynnau print unwaith yn rhagor.
Eglura Siwan Mair, cadeirydd y papur:
“Roedd mynd yn ôl i brint yn eithaf rhwydd, ond mae’r sefyllfa yn newid yn gyson ac felly efallai y bydd rhaid i ni fynd yn ôl i ddarpariaeth electronig os ydi’r sefyllfa yn gwaethygu eto,” meddai.
Er hynny, cydnabyddir bod y cyfyngiadau presennol yn ei gwneud hi’n anodd i gynnal cyfarfodydd, er mwyn trafod y camau nesaf a llunio strategaeth gadarn.
“Fel arfer mi ydan ni’n gallu eistedd rownd bwrdd i drafod,” meddai.
“Rŵan, mae’n rhaid i hynny gael ei wneud drwy decst neu e-bost, sydd ddim yr un peth.”
Edrych i’r dyfodol
Yn y cyfamser, dywed eu bod wedi penderfynu dod â’r ddarpariaeth ddigidol i ben, hyd nes bod modd sefydlu system o danysgrifio, er mwyn atal colledion ariannol.
Mae’n cydnabod fod symud o’r papur i’r digidol a gafodd ei dreialu yn ystod y cyfnod hwn yn debygol o ddod yn fwyfwy pwysig iddyn nhw yn y dyfodol.