Noson Bingo Gernant

Marie Williams Jones
gan Marie Williams Jones

Neithiwr, trefnodd Catrin Jones, 9 oed, sy’n ddisgybl yn Ysgol Gynradd Llandwrog noson o chwarae bingo ar gyfer preswylwyr stâd Gernant, Bethesda Bach. Dechreuodd y gemau am 8:01 – yn syth ar ôl clapio i ddiolch i’r GIG. Bu i’r 4 tŷ gyfrannu rhoddion a llwyddwyd i hel £50 tuag at yr Ambiwlans Awyr – gan gadw at y rheolau 2 medr ar wahân.
Hoofai Catrin ddiolch i bawb am gyfrannu a chael noson llawn hwyl yn ystod yr amser anodd yma.