Nofel Newydd Angharad Tomos

Stori ysgytwol am gaethferch, am forwyn, am long a chastell ac am ddioddefaint y tu hwnt i ddychymyg.

gan Llio Elenid
insta-castell-siwgr-2

Wythnos yma bydd nofel newydd Angharad Tomos yn mynd ar werth ledled Cymru. Mae Angharad eisoes yn adnabyddus am ei nofelau Wele’n Gwawrio a Si Hei Lwli i oedolion, a nofelau hanesyddol Henriét y Syffrajét, Paent a Darn Bach o Bapur i bobl ifanc. Ond arddangosfa yng Nghastell Penrhyn oedd yr ysbrydoliaeth y tu ôl i’w nofel hanesyddol ddiweddaraf.

 

Mae’r stori wedi’i gosod yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac yn mynd â ni i gastell mawreddog Penrhyn yn ogystal ag i blanhigfeydd echrydus Jamaica, wrth ddilyn hanes dwy ferch ifanc, Dorcas ac Eboni. Ceisia’r nofel fynd i’r afael â’r cysylltiad sydd gan Gymru yn y bennod erchyll hon yn hanes dynolryw. Mae hi’n nofel nad yw’n ceisio gwyngalchu’r hanes, a phwysleisir felly ei bod yn ymdrin â themâu difrifol a threisgar.

Mewn cyfnod pan rydyn ni’n cwestiynu’r dehongliad o hanes yr ydym wedi cael ein dysgu, dyma nofel hanesyddol nad yw’n ceisio cuddio rhag y gwir, na chuddio rhan Cymru ynddo ychwaith.

“Yr ysgogiad i’r llyfr oedd gweld arddangosfa gan Manon Steffan Ros yng Nghastell Penrhyn am gysylltiad y castell a’r fasnach gaethwasiaeth,” meddai Angharad Tomos. “Codwyd Penrhyn gydag arian caethwasiaeth, ac roedd yr Arglwydd Penrhyn (Richard Pennant) yn aelod seneddol dros Lerpwl, ac yn gwneud ei orau i atal yr ymdrech i ryddhau caethion. Fel merch i wraig o Fethesda, gwyddwn yn iawn am y ffordd wael y cafodd chwarelwyr y Penrhyn eu trin ond wyddwn i fawr am y cysylltiad â chaethwasiaeth.

“Peth arall ddysgais i oedd mai o Gymru y deuai’r wlanen i ddilladu’r caethweision. Felly ar y dechrau, mae Dorcas yn un o’r teuluoedd sy’n nyddu’r gwlân, a chaiff waith fel morwyn yng Nghastell Penrhyn. Adroddir ail ran y nofel gan Eboni, caethferch yn Jamaica. Welwn ni mo’r Lord (George Dawkins Pennant) yn y llyfr, ond mae ei drachwant yn cael effaith ddinistriol ar fywydau’r ddwy ferch ifanc. Y gobaith yw y bydd y nofel yn gyfraniad tuag at godi’r llen ar agwedd sinistr iawn o hanes Cymru.”

Gwyliwch y fideo i ddysgu mwy am y nofel.

Mi fydd y nofel, sy’n addas ar gyfer pobl ifanc 15 oed a hŷn ac oedolion, ar werth dydd Iau, 12fed o Dachwedd ymlaen ar wefan Gwasg Carreg Gwalch ac yn eich siopau llyfrau lleol.