Menter gymunedol yn mynd o nerth i nerth

Grŵp Cynefin yn ymfalchïo yn llwyddiant menter gymunedol Siop Griffiths

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Menter er budd cymunedol yw Siop Griffiths, ac ers agor caffi Yr Orsaf ar y stryd fawr ym Mhenygroes y llynedd mae grŵp Cynefin sy’n cefnogi’r fenter wedi diolch i’r gymuned leol am ei gwaith caled a’u cefnogaeth i gynnal y fenter newydd.

Ar ôl codi dros £54,000 drwy 150 o gyfranddalwyr er mwyn prynu’r adeilad, llwyddodd y gymuned i ddenu £900,000 gan ymddiriedolaethau gwahanol, gan gynnwys arian Ewropeaidd, Llywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol i ddatblygu’r cynlluniau.

Yn ôl Ben Gregory, uwch swyddog cymuned Grŵp Cynefin: “Mae’n anhygoel meddwl bod criw bach o bobl leol yma yng Ngwynedd wedi llwyddo i ddenu cymaint o arian, ac yn destun i’w gwaith caled a’u hymroddiad i’r cynllun”.

Mae’r fenter wrthi yn datblygu Canolfan Hyfforddiant Digidol ble bydd modd i bobl ifanc ddod yng nghyd i ddysgu sgiliau newydd – creu ffilmiau, cerddoriaeth a phodlediadau.

Mae hefyd cynlluniau i agor llety 16 gwely ar y safle yn ystod y flwyddyn nesaf.

 

“Chwa o awyr iach”

Yn ôl y Cynghorydd Judith Humphreys: “Mae wedi bod yn chwa o awyr iach gweld Yr Orsaf yn agor ei drysau a gweld cefnogaeth pobl leol i’r fenter”.

“Rhaid diolch i nifer o bobl am ddyfalbarhau â’r weledigaeth a gweithio mor ddiwyd i gyrraedd y sefyllfa yma. Mae’r fenter yn dod a gwaith i’r ardal ac yn cynnig hyfforddiant i bobl ifanc – dau beth pwysig iawn i’r rhan yma o Wynedd.”

 

Eisiau gwybod mwy am y fenter?

Yr Orsaf ar Facebook

E-bost: post@yrorsaf.cymru

Ffon: 07410 982467.