Margaret Ogunbanwo am ddangos trugaredd i beintiwr y swastica

Margaret Ogunbanwo sydd ar glawr Golwg wythnos yma.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Iolo Penri | Golwg+

Mae Margaret Ogunbanwo yn dweud ei bod yn bwriadu dangos trugaredd i bwy bynnag wnaeth baentio swastica ar ddrws ei garej yng Ngwynedd.

Yn wreiddiol o Nigeria, mae’r ddynes fusnes wedi treulio 13 mlynedd yn byw ym Mhenygroes gyda’i theulu, gan ddod yn hollol rugl ei Chymraeg.

Mae Margaret Ogunbanwo yn dweud iddi dderbyn toreth o “gardiau, blodau, a chariad”, a dyw hi ddim yn pryderu “o gwbl” am ddiffyg cefnogaeth.

“Dw i’n credu bydd wastad gennym ni gefnogaeth,” meddai.

“Dw i’n credu eu bod yn ein hystyried yn rhan o’r pentref. Mae fy nhad wedi ei gladdu yn y fynwent leol. Mae hynna’n fy ngwneud i’n rhan o’r tir.”

Er hynny, mae ganddi deimladau cymysg am y sefyllfa.

Margaret Ogunbanwo sydd ar glawr Golwg wythnos yma, ac yn trafod pam ei bod am ddangos trugaredd i beintiwr y swastica….

Posted by Cylchgrawn Golwg on Wednesday, 17 June 2020

 

Darllenwch gyfweliad llawn Margaret Ogunbanwo yn fuan yng nghylchgrawn golwg neu ar golwg+