Mae criw o bobol ifanc yn Nyffryn Nantlle, wedi bod yn gweithio’n ddiwyd yn ein cymuned fel rhan o gynllun wyth wythnos ‘Byw a Bod yn y Gymuned’.
Mae’r cynllun, sydd wedi ei ariannu gan Arloesi Gwynedd Wledig, wedi darparu cyfleodd gwaith i bobol ifanc mewn cymunedau ar draws y sir.
Y bwriad, oedd darparu cyfle i bobl ifanc leol fynd ati i adnabod a dod o hyd i ddatrysiadau i broblemau sy’n benodol i’w cymuned.
Mae’r cynllun wedi bod yn rhedeg ers mis Awst ac wedi dod i ben yr wythnos hon.
“Ddoth o i’n sylw ni yn fuan iawn yn ystod y cyfnod clo bod ‘na bryder mawr allan yna i bobl ifanc o ran diffyg cael gwaith, felly bwriad ‘Byw a Bod yn y Gymuned’, oedd gosod pobl ifanc hefo mentrau cymdeithasol, i adnabod yr heriau yn eu cymunedau a gweithredu i ffeindio datrysiad,” meddai Rhian Hughes, Uwch Swyddog Prosiect Arloesi Gwynedd Wledig.
Profiadau Lleucu Non
Un o gyfranogwyr ifanc y prosiect yn Nyffryn Nantlle yw Lleucu Non, sydd wedi bod yn brysur yn ail-lansio’r clwb drama leol.
“Mi o’dd ‘na dri ohona ni’n gweithio ac mi o’n i’n gyfrifol am ail-lansio’r clwb drama, roedd Osian yn gyfrifol am yr ochr gerddorol, mae o wedi bod yn sefydlu gweithdai cerddorol, ac mae Gruff wedi bod yn gwneud ymchwil cymunedol i ffeindio allan be mae pobl Dyffryn Nantlle isio.”
Yn ôl Lleucu, mae’r prosiect wedi bod yn gyfle iddi ddatblygu sgiliau newydd ac ehangu ar ei dealltwriaeth o’r hyn mae menter gymdeithasol a gwaith datblygu cymunedol yn ei olygu.
“Y sgil fwyaf ‘swn i’n deud mod i wedi dysgu oedd i fod yn arloesol a dwi wedi dysgu i fod yn berson mwy amyneddgar,” meddai.
“Dwi hefyd wedi sylwi pa mor bwysig ydi gweithgareddau cymunedol a pha mor bwysig ydi bod cymunedau yn sefyll ar eu traed eu hunain, yn lle bo’ ni’n disgwyl i fentrau neu fusnesau mawr ddod i mewn i gynnal yr economi.
“Mae mentrau lleol, annibynnol, os wbath, yn bwysicach i gynnal hunaniaeth Gymraeg.”
Ehangu’r cynllun i weddill Cymru
Wrth drafod a oes unrhyw gynlluniau i ddatblygu’r cynllun ar gyfer gweddill Cymru, dywed Rhian Hughes o Arloesi Gwynedd Wledig mai “pwrpas y rhaglen ydi bod partneriaethau eraill a mentrau cymdeithasol yn edrych ar fodel Byw a Bod ni, a’i ddefnyddio fo a’i ail fodelu fo gan ddysgu o be’ ‘dan wedi’i wneud”.
“Mi yda ni’n annog cymunedau eraill yng Nghymru i fod yn edrych ar wneud hynny.”