Lansio Ap Newydd!

Ap ‘Graen’ prosiect Treftadaeth Disylw

gan Jade Owen

Mae ap newydd cyffrous ac arloesol yn cael ei lansio ar gyfer un o chwareli llechi yn Nyffryn Nantlle. Mae’r ap sydd wedi’i leoli yn chwarel Dorothea, Talysarn, yn tywys ymwelwyr o amgylch y safle ac yn caniatáu iddynt ddysgu am wyth stori sydd wedi’u hysbrydoli gan hanes chwareli llechi’r ardal. Wedi’i greu gan bobl ifanc prosiect ‘Treftadaeth Ddisylw? Dyffryn Nantlle’ mewn cydweithrediad a’r asiantaeth greadigol Galactig, bydd y straeon hanesyddol hyn yn cael eu hadrodd trwy realiti estynedig. 

I ddathlu lansio’r ap bydd sawl taith tywys dan arweiniad pobl ifanc prosiect Dreftadaeth Ddisylw? ar Hydref 11eg. Mae angen archebu eich lle ac mae lleoedd yn gyfyngedig. I archebu eich lle neu i gael fwy o wybodaeth cysylltwch â jade.owen@heneb.co.uk neu ffoniwch 07900 166765.

Bydd yr ap ar gael i’w lawr lwytho am ddim ar iOS ac Android o Hydref 11eg 2020.

Prosiect ledled Cymru yw ‘Treftadaeth Ddisylw?’, sy’n cynnwys saith prosiect unigryw. Wedi’i ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, nod y prosiectau yw ennyn diddordeb ac ysbrydoli pobl ifanc i ymchwilio eu treftadaeth leol. Mae cangen Gwynedd o’r prosiect wedi canolbwyntio ar ddiwydiant llechi Dyffryn Nantlle ac wedi cael ei chydlynu gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd.