Huw,Iwan,Richard yn ymuno i’r Vale-CPD Nantlle Vale

CPD Nantlle Vale

Begw Elain
gan Begw Elain

?⚽️Newyddion mawr ?⚽️

Triawd yn ymuno o Penrhyndeudraeth.

Huw Quaeck
Iwan Lane
Richard Jones

Hogiau wedi perfformio ar y lefel yma ers blynyddoedd bellach a wedi bod yn llwyddianus yn Penrhyn. Yn curo cwpanau ac yn cyrraedd sawl ffeinal. Mae’nt yn dod i’r Vale gyda’r bwriad o guro mwy o gwpanau.

⬇️Dyma oedd gan yr hogia i ddweud.⬇️

Huw Quaeck
“Dwi edrych ‘mlaen i ymuno efo Vale, mae yna potential yn yr clwb a mae hi am fod yn her newydd”

Richard Jones
“Ar ôl blynyddoedd yn Penrhyn dwin edrych ‘mlaen i symud ymlaen ac ymuno gyda Vale. Cyfleusterau yma yn gret ac yn cae un o’r rhai gora ogwmpas. ”

Iwan Lane

“Dwin edrach ‘mlaen am y tymor newydd ac yn barod am y her. Dwi’n dod yma hefo’r bwriad o flasu llwyddiant a adio i’r garfan cryf sydd yma yn barod.”

⚪️Gair gan Dan?

“Eto yn dilyn ’mlaen o Llion a Gav yn seinio ddoe, hein yn hogiau dwi wedi bod ar ei hola ers cwpwl o flynyddoedd bellach. Y tri yn brofiadol iawn ar y lefel yma ac yn sicr yn gwybod sut i ennill gemau pel-droed. Maen’ t hefyd yn dod a taldra i’r garfan sydd yn rhywbeth rydym ni wedi golli braidd y tymor diwethaf. Mae’r tri yn gymeriadau sydd am ffitio yn syth mewn i’r garfan. Wrth fy modd cael yr hogia mewn crys Vale o’r diwedd.”

#Cmonyfêl