gan
Mari Wynn Tudur
Ydych chi mewn angen am dy fforddiadwy ym Mhenygroes?
Mae Grŵp Cynefin wedi adnabod darn o dir gellir ei ddefnyddio ar gyfer datblygu tai fforddiadwy i bobl leol.
Mae llythyr yn cynnwys linc i gwblhau holiadur wedi ei anfon i bawb yn ardal Penygroes, fe ddylech ei dderbyn erbyn diwedd yr wythnos.
Fodd bynnag, gallwch ddilyn y ddolen isod os ydych chi, aelod o’r teulu neu rywun ‘da chi’n adnabod mewn angen am dy fforddiadwy. Mae’r holiadur hefyd yn rhoi cyfle i chi roi sylwadau am unrhyw ddatblygiadau posib yn yr ardal.
Dyma linc i’r holiadur – http://bit.ly/_Penygroes
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu eisiau cwblhau’r holiadur dros y ffôn, ffoniwch Mari Wynn Tudur ar 07979 803 547 neu cewch anfon e-bost ar htg@grwpcynefin.org