Harri Hughes yn ymuno i’r Fêl 💙⚽️ CPD Nantlle Vale

CPD Nantlle Vale

Begw Elain
gan Begw Elain

‼️Chwaraewr newydd yn ymuno‼️

💙Harri Hughes yn ymuno gyda’r Vale💙

Harri yn gyn chwaraewr i Met Gaerdydd, Bangor ac wedi dod trwy system ieuenctid Wrexham. ⚽️

Mae hefyd wedi ymddangos i Gymru yn cynrychioli’r wlad ar lefel dan 16, Ysgolion Cymru dan 18 a cholegau Cymru dan 18.

⬇️Gair gan Dan. ⬇️

“Wrth i’r garfan siapio mae un neu ddau o ddarnau o’r jig-so yn weddill. Harri yn sicr yn un o’r rhain. Mae’n asgellwr cyflym, cryf gyda chwip o droed chwith. Mae ganddo’r agwedd gywir i lwyddo a does gen i ddim amheuaeth ei fod am brofi ei hun yn lliwiau’r Fêl.Harri fel sawl un arall yn y garfan gyda’r potensial i fod yn chwarae ar lefel uwch yn y dyfodol. Rydym yn falch o groesawu chwaraewr o’i safon i’r garfan.Edrych ymlaen i’w weld ar Faes Dulyn yn fuan!”

Wrth i’r 10fed agosau a chadarnhad os bydd y clwb yn chwarae yn y gynghrair newydd. Mae’r garfan yn sicr yn siapio!!

💙⚽️Croeso i’r clwb Harri💙⚽️

#Cmonyfêl