Ffair Aeaf CFfI Eryri

Clwb CFfI yn mynd amdani!

gan Anni Grug Evans

Cafwyd cystadlu brwd yn Ffair Aeaf Clybiau Ffermwyr Ifanc Eryri dros y penwythnos (30ain-31ain Hydref 2020) Ni all cyfnod clo stopio y ffermwyr ifanc rhag torchi dwylo a chystadlu mew cystadleuthau amrywiol. Eleni cynhalwyd y ffair yn rhithiol ac fel yr arfer roedd nifer o gystadlaethau amrywiol gan gynnwys  sesiynau coginio  ar y pryd,  barnu stoc ar lein, pobi a crefftau.  Roedd amodau y cystadlu yn dra gwahanol ac roedd gofyn cyflwyno fideo byr fel rhan o’r cystadlu. Lwcus bod aelodau clwb Dyffryn Nantlle yn ‘wizz kids’ ar y cyfrifiadur!! Cafwyd cystadlu brwd gan y clwb a daeth llwyddiant i ran yr aelodau. Daeth y clwb yn 4ydd gyda 24 marc. Llongyfarchiadau i Ysbyty Ifan am gipio y safle cyntaf gyda 32 marc. Ymlaen nawr i’r Ffair Aeaf Cymru Rhuthiol a phob lwc i aelodau Dyffryn Nantlle fydd yn cynrychioli Eryri.

Barnu Carces Wyn Dan 27 oed

> 1af- Dafydd Ellis

Barnau Gwartheg Biff Dan 27 oed

> 2il- Tomos Wyn Jones

Ar eich marciau barod, coginiwch

> 1af- Catrin Lois

> 3ydd- Elliw Jones

Addurno 4 Cacenau Fach Dan 19 oed

> 1af- Anni Evans

Barnu Gwarthaeg Biff Dan 19  oed

> 1af- Catrin Lois Jones

> 2ail- Ifan Prys Thomos