Eisteddfod Plant Llanllyfni

Eisteddfod plant Llanllyfni 2020.

Ysgol Llanllyfni
gan Ysgol Llanllyfni

Nos Iau, Chwefror 13eg.

Braf oedd gweld Neuadd Bentref Llanllyfni’n orlawn gyda disgyblion a’u rhieni yn mwynhau’r holl gystadlu. Mae’n bwysig cadw’r traddodiad yn fyw yn y pentref ac yn sicr roedd plant a phobl Llanllyfni wedi gwneud yr ymdrech i sicrhau hyn.

Bu cystadlu o safon i’w weld ar lwyfan y neuadd drwy’r nos. Ar adegau, roedd y beirniaid; Nesta Jones, Bethan Lloyd  ac Angharad Jones yn gorfod rhannu’r gwobrau 1af, 2il a 3ydd.

Cliciwch yma i gael Cipolwg o’r cystadlu

Cystadlaethau:

Meithrin: Mi welais Jac y Do, Fi di’r Dinosor

Derbyn: Fi di’r Dinosor, Daniel y Dinosor.

Bl 1 a 2: Mynd ar Wyliau, Mae Rhywbeth Mawr yn Dod.

Bl 3 a 4: Rhyfeddodau , Y Cipio.

Bl 5 a 6: Yma o Hyd, Lloeren.

Pawb: Unawd offerynnol

Diolch i holl bwyllgor yr Eisteddfod am drefnu noson fendigedig, i’r beirniaid a chyfeilydd am eu gwaith arbennig. Diolch i Lana a Nia, cyn-ddisgyblion Ysgol Llanllyfni am ddod i rannu’r rhubanau. Ond yn bwysicach na dim, diolch i blant yr ysgol am ddod i gystadlu a sicrhau bod y noson yn llwyddiant.