Er gwaetha’r sefyllfa bresennol ar hyd y byd, mae busnesau lleol y Dyffryn yn agored ac yn addasu, er mwyn sicrhau eu bod yn gallu gwasanaethu’r gymuned.
Sicrhau diogelwch cwsmeriaid
Ar ôl siarad gyda sawl busnes yn yr ardal, mae’n amlwg mai iechyd a diogelwch eu cwsmeriaid yw’r flaenoriaeth ar hyn o bryd, a systemau hylendid priodol mewn lle i leihau’r risg i gwsmeriaid.
Mae sawl cam yn cael ei gymryd gan y gweithwyr, a pob un yn sicrhau eu bod yn dilyn cyfarwyddiadau diweddaraf y Llywodraeth ar hylendid.
Addasu
Un cwmni lleol sy’n addasu, ac yn cynnig gwasanaethau newydd yw Deli’r Banc. Mae’r Deli yn cynnig llenwi eich poteli â diheintydd, am bris di-elw.
Mae’r Deli hefyd am fod yn darparu prydau parod, a phecynnau bwyd sydd yn cynnwys cigoedd, llysiau, bara, llefrith ac wyau ffres.
Bydd y Deli’n cludo’r eitemau yma am ddim o fewn 5 milltir (archeb £10 neu fwy), ac yn codi 50c y filltir ar ôl hynny. Mae modd cysylltu ar dudalen Facebook y Deli, neu ar 07793030683.
Helpu’r gymuned gyfan
Mae drysau’r Orsaf yn agored hefyd, ac yn cynnig sawl pryd blasus i’w fwynhau yn y Caffi, neu mae modd archebu bwyd ‘i fynd’ hefyd.
Yn ogystal â hyn, mae tîm yr Orsaf wedi sefydlu Grŵp Cefnogi, sydd ar gael mewn unrhyw ffordd i helpu unigolion sy’n hunan-ynysu.
Gall y grŵp yma helpu gyda sawl peth gan gynnwys danfon nwyddau, postio llythyrau, neu am sgwrs ffôn gyfeillgar.
Yn ystod y dyddiau nesaf bydd y grŵp yn recriwtio gwirfoddolwyr i helpu unigolion Dyffryn Nantlle.
Os angen cymorth, neu am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Elliw yn y bore (elliw@yrorsaf.cymru neu 07529222670), neu Greta yn y prynhawn (greta@yrorsaf.cymru neu 07410982467)
Cefnogi’r busnesau bach
Mae’r siopau lleol wedi bod yn brysur, gyda chynnyrch ffres yn hedfan oddi ar silffoedd y becws lleol.
Wrth i silffoedd yr archfarchnadoedd wagio, a rhai yn gyndyn o deithio, mae mwy o bobol yn troi at fusnesau lleol er mwyn llenwi’r cypyrddau.
Mae’r cynnydd yn y galw am foddion yn golygu fod fferyllfa Penygroes wedi bod yn brysur iawn hefyd. Gan fod mwy o alw na’r arfer am feddyginiaeth fel paracetamol, mae ambell i beth yn brin yn y siop. Ond, nid yw hyn yn rheswm i boeni, gan fod archeb newydd ar ei ffordd.
Cefnogwch
Un peth sy’n amlwg wrth siarad gyda busnesau’r ardal, yw bod dyddiau caled ar y gorwel. Mewn cyfnod fel hyn, mae’n bwysig cydweithio.
Fel y gwelwn, mae sawl busnes lleol yn addasu er mwyn cefnogi’r gymuned yn ystod yr argyfwng yma. Felly, mae’n bwysig bod pobol y Dyffryn yn cefnogi busnesau lleol, ac yn manteisio ar y gwasanaethau newydd yma, er mwyn cadw eu drysau’n agored.