Diwedd cyfnod Aelod Iau’r Flwyddyn

Gwen Th
gan Gwen Th

Mae cyfnod Catrin Lois neu Catrin Cwmbran i chi bobl yr ardal yn dirwyn i ben fel Aelod Iau CFFI Eryri yr wythnos hon. Cyn i’r Aelod Iau nesaf gael ei goroni nos Fercher, dyma i chi ychydig o hanes Catrin a’r Ffermwyr Ifanc……

Enw:
Catrin Lois Jones

Oed:
18

Diddordebau:
Llawer o bethau… cymdeithasu hefo teulu a ffrindiau, darllen, ffermio, cerddoriaeth, hanes (hanesion pobl rydw i’n eu cyfarfod/adnabod, hanes Cymru, hanes y byd, hanes lleoliadau a.y.y.b), yr Iaith Gymraeg a llawer mwy.

Clwb:
Dyffryn Nantlle

Ym mha flwyddyn y gwnes di ymuno â’r Clwb?
Pan oeddwn i ym mlwyddyn 7, felly 2013.

Pa swyddi wyt ti wedi eu dal o fewn y Clwb yn ystod dy aelodaeth?
Rwyf wedi bod yn ddigon lwcus i fod yn Ysgrifennydd Cystadlaethau, Ysgrifennydd Rhaglen a Chadeirydd y Clwb yn fy amser fel aelod, ac yn edrych ymlaen i ymgymryd â swydd arall yn y dyfodol.

Pam wnes di ymgeisio am deitl Aelod Iau’r Flwyddyn?
Roeddwn i eisiau cynrychioli fy Nghlwb yn ogystal â manteisio ar y cyfleoedd arbennig mae’r mudiad yn eu cynnig drwy gynnal cystadlaethau fel hyn.

Beth oedd uchafbwynt dy flwyddyn?
Uchafbwynt fy mlwyddyn o ran y Ffermwyr Ifanc eleni oedd cystadlu yn y Côr Sirol gan fynd ymlaen i ddod yn fuddugol yn Eisteddfod CFFI Cymru, roedd hynny’n deimlad gwych. Mae’n braf cael cyfle i fod yn rhan o fudiad sydd yn rhi cyfleoedd mor arbennig i ni a’n galluogi i wneud pethau arbennig drwy gyd-weithio a chael hwyl ar ddiwedd y dydd.

Gair o gyngor i’r Aelod Iau nesaf……..
I fynd amdani. Mae’n gyfle gwych i gynrychioli dy Glwb â’r Sir gan ennill profiadau rhagorol fydd yn fuddiol iawn ar gyfer dy ddyfodol. Yn bersonol, rwyf wedi sylweddoli pa mor anhygoel yw cyfleoedd fel hyn ychydig o wythnosau yn ôl pan oeddwn yn cwblhau fy ngheisiadau ar gyfer y Brifysgol. Gwna dy orau a bydda’n falch o dy rôl a’th Sir.

Sut fysa ti yn hoffi gweld y Clwb a/neu’r Sir yn datblygu dros y flwyddyn sydd i ddod?
Mae’r mudiad ar y cyfan yn anhygoel, a does dim byd y buaswn i’n dymuno i’w newid. Ond un peth rydw i’n prysuro i’w ddweud ydi i’r holl aelodau, yn y Clwb ac yn y Sir, i fanteisio ar y cyfleoedd unigryw sydd ar gael i ddysgu, cystadlu a chymdeithasu. Cymerwch rhan yn unrhyw beth a phopeth sydd yn bosib, wnewch chi ddim difaru.

Y peth gorau am fod yn aelod o’r Ffermwyr Ifanc yw……
Yn sicr, y peth gorau am fod yn aelod yw’r teimlad o berthyn, y profiadau di-ddiwedd, y ffrindiau oes â’r atgofion melys.