Diolch am dechnoleg ??

Gallu technoleg yn cynnal ryw normalrwydd.

Gwen Th
gan Gwen Th

Gyda gallu technoleg wedi ei wthio i’r eithaf dros y misoedd diwethaf, mae Mudiad y Ffermwyr Ifanc ar lefel Clwb a Chymru wedi manteisio ar allu technoleg er mwyn cael ychydig o normalrwydd unwaith eto.

Fel Clwb, rydym wedi bod yn cynnal, nosweithiau Clwb bob pythefnos drwy gyfrwng Zoom. Rydym wedi cael noson Cwis, noson Bingo a noson Virtual Bake dan ofal Sara Lleuar ble buom yn coginio Cookie Dough traybake ? Diolch i Sara am gynnal y noson

Gyda’r Sioe Fawr yn Llanelwedd wedi ei chanslo am eleni, bu i Fudiad Ffermwyr Ifanc Cymru gynnal wythnos o gystadlaethau rhithiol a daeth llwyddiant i’r Clwb ac i’r Sir yn ystod yr wythnos. Llongyfarchiadau mawr i Ifan Dolgynfydd ar ddod yn 3ydd yn y gystadleuaeth Barnu Moch Cymreig dan 18 ac i holl aelodau’r Sir ar eu llwyddiant. Daeth y Sir yn 3ydd ar ddiwedd wythnos brysur o gystadlu ?

Bu i rai o aelodau’r Clwb gymryd rhan yn Her Ewros CFFI Eryri ⚽️ Her oedd hi i gerdded, rhedeg neu feicio cyfanswm o 5,557.1 o filltiroedd sef cyfanswm y milltiroedd o Swyddfa’r Sir yng Nghaernarfon i Bern – Prif ddinas Y Swistir, Anakara – Prif ddinas Twrci a Rhufain – Prif ddinas yr Eidal sef y dair gwlad oedd Cymru i fod i’w hwynebu ym mhencampwriaeth yr Ewros ??‍♀️ Llwyddwyd i gerdded, rhedeg a beicio cyfanswm o 6,169.26 o filltiroedd gan gasglu arian tuag at CFFI Eryri a’r DPJ Foundation. Os oes gennych geiniog i’w sbario, gallwch gyfrannu drwy ddilyn y ddolen isod:

https://www.justgiving.com/crowdfunding/cffieryri?utm_term=JjK5QbgYk&fbclid=IwAR0am47ga_A5_uDd25xtOGXKDSYG6hkHYRwGb2_oTkNfgvh0whw9OCe-BCQ

Rydym fel Clwb yn edrych ymlaen am egwyl, dros wyliau’r Haf ac yn gobeithio’n fawr y bydd modd i ni gyfarfod wyneb yn wyneb ym mis Medi ?? Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi ein cefnogi yn ystod y flwyddyn ??✨

Mwynhewch yr Haf ☀️