Mae Byw’n Iach Gwynedd, sy’n gyfrifol am ganolfannau hamdden Gwynedd, wedi dweud bod cae synthetig Plas Silyn yn Nyffryn Nantlle wedi cael ei ddifrodi.
Cafodd clo’r cae ei dorri a’i ddwyn o safle Plas Silyn ac mae sbwriel wedi cael ei adael yno.
“Mae grŵp sylweddol o unigolion yn cynnwys oedolion a phlant wedi defnyddio cae Plas Silyn ar gyfer sesiwn hyfforddi ar ôl i’r clo cael ei dynnu ac wedi gadael pentwr mawr o ysbwriel ar eu hôl,” meddai datganiad gan Byw’n Iach Gwynedd.
“Yn amlwg mae hyn yn sefyllfa hollol annerbyniol ac os oes difrod i’r wyneb wedi achosi, all achosi oedi o ran mynediad i glybiau chwaraeon a grwpiau gwirfoddol.”
Dywedodd Byw’n Iach Gwynedd eu bod wedi cysylltu â’r heddlu ac yn bwriadu darparu tystiolaeth CCTV iddynt.
“Mae clywed am ddifrod ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ein hardal yn siomedig iawn, yn enwedig gan mai adnodd cymunedol i’r gymuned ei fwynhau yw Plas Silyn,” meddai Cynghorydd Penygroes Judith Humphreys wrth golwg360.
“Diolch mai peth prin yw gweithredoedd o’r fath yn yr ardal, a bod gennym bobl ifanc, gweithgar a chymwynasgar yn Nyffryn Nantlle sy’n cyfrannu at les ein cymuned.”
Mae Byw’n Iach Gwynedd wedi gofyn i drigolion lleol sydd â gwybodaeth am y difrod e bostio cyswllt@bywniach.cymru.