“Reu, Reu, Reu, dewch ‘laen Nantlle Vale” – Gai Toms a’r Banditos

Begw Elain
gan Begw Elain

Cae Pêl-droed rhwng y môr a’r mynydd

Ydach chi hoff o fwrlwm a chyffro o gwmpas cae pêl-droed?

Dydd Sadwrn 11ed o Ionawr bydd Cae Pêl-droed Maes Dulyn yn orlawn, pob cefnogwyr Vale yn gwisgo glas a gwyn ac yr holl dîm rheoli wedi cyffroi yn lân. Rownd 5 FAW cwpan Cymru sydd gydag un deg chwech o dimau diwethaf  yng nghwpan Cymru.

Dydd Sadwrn yma fydd Nantlle Vale yn erbyn Brymbo, cic gyntaf am 13:30!!!

Fe gewch chi olygfeydd bendigedig o’r cae gyda mynyddoedd Eryri yn disgleirio yn y cefndir. Does dim angen poeni am lyncu brechdan jam sydyn cyn dod! Mae gennym ni gaffi gwych, sydd yn cael ei rhedeg gan genod y gegin, sydd wastad ar ei orau!

Fydd yno baneidiau gwerth chweil ar gael gyda hot dog neu burger i fwyta. Peidiwch ag anghofio am yr holl bethau eraill sydd i gael e,g siocled,creision,caniau/poteli diod fedrwch ei brynu.

Gobeithiwn yn arw am sgôr dda i’r Fêl, er mwyn gallu mynd i’r rownd nesaf. Fasa gallu chwarae timau mwy heriol a chreu fwy o brofiadau i’r hogiau yn anhygoel.

Dewch draw i’r cae, fydd yno awyrgylch arbennig a gobeithio bydd y Dyffryn i gyd yno i gefnogi’r Fêl.