Tîm cyntaf yn ysbrydoli timau iau’r Clwb -Nantlle Vale

Begw Elain
gan Begw Elain
Cadw'r bêl-droed i fynd

Helo bawb, gobeithio bod chi gyd yn cadw yn ddiogel yn ystod y sefyllfa ansicr yma!

Fel clwb pêl-droed dani fel Clwb Nantlle Vale yn cyhoeddi fideo bob yn ail diwrnod yn dangos y ffyrdd mae ein tîm cyntaf yn ymarfer pêl-droed yn ddiogel e.g yn yr ardd, yn y tŷ ac ati.

Mae yno lawer o fideos wedi mynd fyny yn barod, cerwch draw i’w gwylio, dyma ffordd wych ar gyfer dod a’r chwaraewyr ai’r holl gefnogwyr at ei gilydd yn ystod y sefyllfa yma.Hefyd mae’r chwaraewyr yn ysbrydoli timau iau’r Clwb drwy ddangos sgiliau fydd y tîm iau yn gallu ei defnyddio i ymarfer

Cerwch draw i Facebook/Twitter/Intsagram y clwb Nantlle Vale er mwyn gweld y fideos sydd wedi chael ei gyhoeddi hyd yn hyn ,siŵr gewch chi hwyl!

Cadwch yn saff a gobeithio bydden ni nol mewn caeau pêl-droed yn llawn cyffro eto!

Diolch yn fawr

Begw Elain

Swyddog y Wasg Nantlle Vale