Tîm cyntaf clwb Pêl-droed Nantlle Vale wedi rhedeg 593km mewn wythnos! 

Hanes wythnos gyntaf Tashwedd Clwb Pêl-droed  Nantlle Vale 

Begw Elain
gan Begw Elain
6177F961-D3CA-4506-9592

??Tashwedd/November?‍♂️ 


Yng nghanol y cyfnod clo byr,cychwynodd tîm cyntaf CPD Nantlle Vale ar y sialens o redeg 1,400km drwy’r mis er mwyn codi ymwybyddiaeth i broblemau mae dynion yn ei wynebu yn ystod ei bywydau! Dim ond wythnos gyntaf y her a mae’r hogiau wedi cwblhau 593.89km!! 

Heb os ac oni bai mae hogiau ar dân,mae’r milltiroedd yn cynyddu bob dydd a gyda’r gemau cyfeillgar yn cael ail gychwyn ar ôl 8 mis wythnos hon ,mae pawb wedi cyffroi lan yng nghlwb pêl-droed Nantlle Vale !! 

⭐️Digon o luniau/fideos ar ei ffordd! ⭐️Cyfanswm anhygoel i ddechrau’r her.‘Mlaen a ni i wythnos arall! 

Dyma rhai o luniau a selfies yr hogia ’da’r mwstashis??

Cofiwch ein dilyn ni ar ein cyfryngau cymdeithasol @NantlleValeFC

Diolch yn fawr!

Swyddog y Wasg CPD Nantlle Vale -Begw Elain

https://https://youtu.be/VaiyBTUO65g