Cyngor Gwynedd wedi aberthu rhai dyletswydda’ oherwydd y corona

Y cyngor sir yn wynebu colledion o £9m

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae Arweinydd Cyngor Gwynedd yn cydnabod bod y cyngor wedi gorfod aberthu rhai o’i ddyletswyddau arferol er mwyn blaenoriaethu eu hymateb i’r coronafeirws.

Mewn cyfweliad gyda golwg360 roedd Dyfrig Siencyn, Arweinydd Cyngor Gwynedd, yn ateb eich cwestiynau chi – bobol Gwynedd – am ymateb y sir i argyfwng y coronafeirws.

Mater o flaenoriaethu

Yn ôl Dyfrig Siencyn, mae Cyngor Gwynedd yn wynebu colledion o hyd at £9 miliwn, ac mae dewisiadau anodd wedi gorfod cael eu gwneud wrth i’r cyngor orfod aberthu rhai o’i ddyletswyddau arferol er mwyn gallu ymateb i’r coronafeirws.

Roedd Bro360 wedi derbyn cwestiynau gan y cyhoedd am ddyletswyddau arferol y cyngor, gan gynnwys cwestiynau am gasglu ysbwriel ar brif ffyrdd y sir ac am y broblem parcio yn Llanllyfni.

“Ar y diwrnod cyntaf o’r cyfyngiad mi ddaeth rheolwyr y cyngor at ei gilydd i drafod pa wasanaethau sy’n hanfodol i ni yn ystod yr argyfwng yma”, meddai Dyfrig Siencyn.

Eglurodd fod y cyngor wedi blaenoriaethu gwasanaethau i gategorïau gwahanol, gyda gwasanaethau gofal yng nghategori un a gwasanaethau prif ffyrdd yn cwympo islaw gyda dim ond gwaith hanfodol yn cael ei wneud.

Ychwanegodd arweinydd y cyngor: “Os oes problemau yn codi mi ddylai unrhyw etholwr yn y sir gysylltu â’r cyngor.”

Y camau nesaf

Wrth i’r Prif Weinidog, Mark Drakeford amlinelli ei gynllun ‘goleuadau traffig’ i lacio’r cyfyngiadau yng Nghymru, dywedodd Arweinydd Cyngor Gwynedd fod trafodaethau ynghylch pa wasanaethau ddylai ddychwelyd gyntaf.

“Cyn diwedd mis Mai mi fydd yna gyfarfod cabinet arbennig i drafod sut bydd Cyngor Gwynedd yn dod nôl i ryw fath o drefn newydd.

“[Byddwn yn trafod] pa wasanaethau fydd modd eu hadfer, a beth yw’r problemau rydym yn eu hwynebu oherwydd y cyfyngiadau mewn gwahanol adrannau.”

Er bod y cyngor wedi bod yn darparu offer diogelwch PPE ar sail cyngor gan Lywodraeth Cymru, eglurodd Dyfrig Siencyn bod y cyngor hefyd wedi darparu offer diogelwch i grwpiau cymunedol, a bod trafodaethau wedi dechrau yn barod ynglŷn â pha offer fydd ei angen ar wahanol adrannau o fewn y cyngor.

Ond mae talp o’r gweithlu yn parhau i weithio yn eu cartrefi.

“Mae bron i 2,000 o’n staff ni yn gweithio o gartref,” meddai Dyfrig Siencyn. “Mae yna rai enghreifftiau lle rydym wedi dysgu fod gweithio o gartref wedi bod yn fwy effeithiol nad oedd o i weithio o’r swyddfa.

“Ond dydy gweithio o gartref ddim bob tro’r peth mwyaf effeithiol i’w wneud.”

Gwyliwch y cyfweliad llawn yma:

Dyfrig Siencyn yn ateb eich cwestiynau chi am ymateb y sir i argyfwng y coronafeirws.

Dyfrig Siencyn, Arweinydd Cyngor Gwynedd, yn ateb eich cwestiynau chi am ymateb y sir i argyfwng y coronafeirws.

Posted by DyffrynNantlle360 on Thursday, 14 May 2020