gan
Phil Williams
Da ni’n falch iawn o gael cyhoeddi ‘Cyngerdd Mawr y Pasg’, yn Neuadd y pentref, Groeslon.
Mai’n gaddo i fod yn noson anhygoel, wrth i Gwilym Bowen Rhys, Bwncath, Hogia’r Bonc a Phil Gas a’r Band berfformio.
Bydd y noson yn mynd yn ei blaen ar Nos Wener, Ebrill 17 am 7 o’r gloch, a bydd unrhyw elw yn mynd at y Neuadd a Cronfa Diffib y pentref.
Mae’r tocynnau yn costio £12, ac ar werth wan o garij Dolydd a Deli’r Banc, Penygroes. Dyma flas i chi o beth i’w ddisgwyl o’r noson!