Cyfres ddrama newydd yn Dyffryn Nantlle

Cynhyrchu cyfres ddrama newydd ar gyfer pobl ifanc.

gan Elin Gwyn

POSTER-PERSONA

Mae Cwmni Da yn cynhyrchu cyfres ddrama newydd ar gyfer pobl ifanc sydd wedi ei lleoli yn Ddyffryn Nantlle. Bydd y prosiect, sydd wedi cael ei ariannu gan S4C a’r Gronfa Cynulleidfaoedd Ifanc, yn seiliedig ar fywydau pobl ifanc yn yr ardal.

Mae’r cyfarwyddwr, Eilir Pierce, a’r awdur a’r cynhyrchydd, Elin Gwyn, yn cynnal cyfres o weithdai ym Mhenygroes a Chaernarfon ar gyfer y gynulleidfa darged sef pobl ifanc 13-16 oed. Maent yn chwilio am gyfranwyr i gynnig syniadau, rhannu profiadau, i drafod rhaglenni teledu ac i gymryd rhan mewn gweithdai actio.

Dywedodd Elin, sydd hefyd yn un o awduron Deian a Loli, ‘Dwi eisiau i’r gyfres yma fod yn adlewyrchiad o fywydau pobl ifanc. Bydd y cyfryngau cymdeithasol yn chwarae rhan bwysig yn y stori, fel y maen nhw ym mywydau pawb erbyn hyn. Gallai gofio sut beth oedd bod yn 15 oed, ond does gennai ddim syniad sut beth ydi bod yn 15 oed heddiw ac felly mi fuaswn i’n gwerthfawrogi cael criw sy’n fodlon rhannu eu profiadau efo ni!’

Mae Eilir hefyd yn frwdfrydig iawn am y prosiect ac yntau wedi bod yn gweithio gyda Clwb Ffilm Dyffryn Nantlle dros y 9 mlynedd diwethaf. Dywedodd, ‘Mae’n wych cael datblygu cyfres ar gyfer pobl ifanc yn yr ardal yma a mi fuasai’n gret cael criw da i weithio efo ni.’

Mi fydd y gyfres yn cael ei ffilmio yn ystod yr Haf eleni cyn cael ei darlledu ar S4C.

Dyma ddyddiadau’r sesiynau:

17/02/20 Yr Orsaf, Penygroes (13-14 oed)

18/02/10 Yr Orsaf, Penygroes (15-16 oed)

19/02/20 Galeri, Caernarfon (13-14 oed)

20/02/20 Galeri, Caernarfon (15-16 oed)