Cyfarfod Gyrrwyr Gwirfoddol Cynllun Trafnidiaeth

greta
gan greta

Mae cynllun newydd yn dechrau yn Nyffryn Nantlle ac rydym angen eich help chi.

Oes gennych chi gar a thrwydded gyrru? Ydych chi’n awyddus i helpu eraill? Hoffech chi roi rhywbeth yn ôl i’ch cymuned?

Rydym yn chwilio am unigolion i wirfoddoli eu hamser i dywys pobl hyn (sydd ddim yn gallu tywys eu hunain) i apwyntiadau meddygol, teithiau siopa, ymweliadau cymdeithasol, ayyb. Bydd y cynllun yn talu am hyfforddiant, DBS a chostau teithio i’r gwirfoddolwyr.

Bydd eich cyfraniad yn werthfawr dros ben i’r unigolion sydd eich hangen fwyaf.

Os oes gennych ddiddordeb, dewch draw i’r Orsaf ym Mhenygroes i gael sgwrs anffurfiol i ddysgu mwy am y cynllun neu i gofrestru fel gwirfoddolwr.

Am fwy o wybodaeth neu am sgwrs am y cynllun, cysylltwch â Greta ar: greta@yrorsaf.cymru neu 07410 982467