Y Covid a Ni

Blas ar effaith yr ansicrwydd ar aelodau Clwb Ffermwyr Ifanc Dyffryn Nantlle.

Gwen Th
gan Gwen Th

Mae dwy fil ag ugain yn dipyn o boendod. Dim dathlu, dim gwylia’, dim Sioe, dim ‘Steddfod. Yn wir, mae ‘leni yn dipyn o dro ar fyd. Daeth cwmwl i gysgodi ein bywydau a’r cwmwl hwnnw yn gymysgedd o fygythiad, pryder ac ansicrwydd. Yr ansicrwydd dybiwn i oedd ac ydi’r gwaethaf. Y cwestiynau diddiwedd a’r diffyg atebion.

Gwastraff arian oedd prynu dyddiadur newydd ddechrau’r flwyddyn wrth i bopeth oedd yno gael ei ganslo yn briodasau, Eisteddfodau, Ralïau’r Ffermwyr Ifanc, y Sioe Fawr a phob noson allan am fisoedd. Chwalwyd ein normal dros nos. Er bod normal pawb yn wahanol, mae normal pawb yn gysur ac yn ffordd o fyw.

Mae technoleg wedi bod yn fendith boed i’n galluogi i weithio o adref, i siarad â theulu a ffrindiau, i gymryd rhan mewn nosweithiau cwis neu i fwynhau Eisteddfod T yr wythnos diwethaf. Fe fyddai’r cyfnod hwn yn dipyn anoddach hebddo.

Mae effaith yr ansicrwydd ar fywydau pob un ohonom yn wahanol ond dyma i chi flas ar effaith yr ansicrwydd ar aelodau Clwb Ffermwyr Ifanc Dyffryn Nantlle.

Profiad Lois

“Pan nes i orffen yr ysgol nôl ym mis Mawrth, oni’n falch. Oni ‘di dechrau mynd yn paranoid am fynd i’r ysgol. Ar y 3ydd o Ebrill, ges i lythyr gan Lywodraeth Cymru yn dweud bod rhaid i mi hunan ynysu am 12 wythnos. Dwi’n byw gyda chyflwr o’r enw Lupus. Clefyd auto immune sy’n achosi poen a blinder. Cyflwr sydd yn anrhagweladwy. Pan ges i’r llythyr, doedd gen i ddim gwaith ysgol i’w wneud oherwydd bod yr arholiadau wedi eu gohirio a’n bod am dderbyn graddau wedi eu rhagfynegi. Rwyf yn nisgybl ym mlwyddyn 12 ac felly, ni fydd y graddau rheini yn cyfri dim tuag at radd derfynol fy Lefel A’r flwyddyn nesaf.

Mae sawl un yn falch nad ydynt am orfod eistedd arholiadau eleni ond, mae’r sefyllfa yn un bryderus i mi. Roeddwn yn rhy sâl i eistedd fy arholiadau TGAU’r llynedd ac felly derbyniais raddau disgwyliedig. Does dim modd rhagweld sut y bydd fy iechyd ymhen blwyddyn. Does dim sicrwydd y byddaf yn ddigon iach i eistedd fy arholiadau Lefel A. Pe bawn i yn sâl y flwyddyn nesaf, o dan amgylchiadau cyffredin, byddai graddau fy Lefel A yn seiliedig ar fy ngraddau yn yr arholiadau eleni ac ar fy ngwaith cwrs.

Dwi’n teimlo mewn limbo ar hyn o bryd. Fe ddylai disgyblion ym mlwyddyn 10 a 12 dderbyn graddau disgwyliedig sydd yn cyfri tuag at y radd derfynol. Dwi wedi gweithio’n galed ers mis Medi ond yn nôl yr hyn mae’r Llywodraeth yn ei ddweud ar hyn o bryd, fydd gen i ddim i’w ddangos am y gwaith caled hwnnw.”

Profiad Sian – Arweinydd y Clwb

“Diafol o beth ydi’r clwy ‘ma! Mewn cyfnod o’r fath, mae gwlad a chenedl angen arweinydd call a chydwybodol. Daeth i’w amlwg yn fuan iawn yn 2020 mai nifer fechan iawn o wledydd y bydd sydd yn ddigon ffodus i gael arweinydd o’r fath. Yn sicr does gan Brydain ddim ond diolch byth mai yng Nghymru yr ydym yn byw. Mae rhai o’n Aelodau Seneddol wedi deffro ac wedi ceisio ein gwarchod ond oedd hynny yn rhy hwyr? Pam nad oes digon o adnoddau? Pam nad oes gan yr Heddlu ddigon o rym a hawliau i gadw ffyliaid draw? Eto’r ansicrwydd sy’n llethol. Mae gwleidyddiaeth y sefyllfa tu hwnt i fy rheolaeth a’r cwbl alla i wneud, yw cadw fy nyth bach i o gywion yn ddiogel.

Mae’r tri wedi dygymod yn rhyfeddol dweud gwir. Rydym i gyd yn cael pyliau o deimlo’n rhwystredig, blin, trist ac ofnus ond ar y cyfan, rydym yn cynnal ein gilydd trwy fod yn bositif, siriol a chael digon o farbeciws! Mae’r tywydd braf wedi bod yn fendith ac yn falm i’r enaid trwy hyn oll (er bod y gŵr a phob amaethwr a garddwr yn crefu am law!)

Mae’r dyfodol yn parhau i fod yn ansicr iawn. Does wybod beth yn union sydd o’n blaenau ond mae un peth yn sicr, teulu ddaw gyntaf bob tro ac er gwaethaf bygythiadau Covid 19 ac arweinwyr anghydwybodol y DU, daw eto haul ar fryn a thra bo dynoliaeth fe fydd amaethu, a chyw hen linach yn ei olynu.”

Profiad Elliw

“Mae’r virus wedi effeithio llawer ar bawb led led y byd. Mai’n drist ofnadwy bod cymaint yn dioddef a dwi yn deall bod iechyd yn llawer pwysicach ond allai ddim peidio teimlo yn gytyd bod ni ddim yn cael gweld ffrindiau a theulu a mwynhau ein hunain. Dwi’n methu cael cymdeithasu’n Clwb ac yn siomedig bod y Rali wedi ei chanslo eleni a minnau fel llawer un arall yn edrych ymlaen. Fe fydd Rali’r flwyddyn nesaf a dyna be sy’n bwysig i’w gofio yn ystod y cyfnod anodd yma. Mai’n bwysig aros adref er mwyn sicrhau bod Rali a digwyddiadau tebyg yn cael eu cynnal y flwyddyn nesaf. Dwi’n bendant ddim yn methu’r ysgol ond dwi yn methu mynd i weithio i Goat Glandwyfach.
Dwi’n poeni am ddyfodol busnesau fel Goat a busnesau bach lleol eraill. Mai’n bendant am gymryd dipyn o amser i bethau ddod yn nôl i normal.
Mae’r cyfnod hwn yn sicr wedi gwneud i mi sylweddoli faint o bethau dwi’n eu cymryd yn ganiataol o ddydd i ddydd – hyd yn oed y petha’ lleiaf.”

Profiad Elen

“Mae Covid-19 wedi effeithio yn fawr ar fy ngwaith coleg a hynny yn bennaf oherwydd bod rhaid i mi gael gwersi ar lein yn hytrach nag wyneb yn wyneb. Mae’n gweithio yn iawn ond dydi’r gefnogaeth ddim yr un peth oherwydd fy mod yn gorfod cysylltu drwy e-bost. Rwyf yn lwcus iawn o fy nhiwtoriaid sydd wedi dygymod yn dda gyda’r sefyllfa. Y broblem fwyaf o fyw yng nghefn gwlad ydi bod y we yn araf ofnadwy!”

Profiad Glesni

“Mae cyfnod Covid-19 wedi dod gydag amryw rwystr. Bellach rwyf wedi bod yn gweithio adra ers 10 wythnos ac mai wedi bod yn brofiad rhyfedd, ond un elfen sydd wedi bod yn dda ydi peidio gorfod eistedd mewn traffig ym Montnewydd yn ddyddiol!

Rwyf ar hyn o bryd yn ganol fy ail flwyddyn o gymhwyster Masters ym Mhrifysgol Glyndŵr ac yr wythnos yma o ni fod i orffen. Ond ma pethau wedi newid, ac o ganlyniad ni fyddaf nawr yn gorffen tan ddechrau mis Awst, sydd yn hollol wahanol i beth o ni wedi ei ddisgwyl!

Mae’r sialens o weithio llawn amser a chwblhau cwrs yn her ynddo ei hun. Ond mae’r wythnosau diwethaf wedi bod yn her nad oeddwn yn ei ddisgwyl.

Mae’r elfen gymdeithasol wedi bod yn anodd, methu gweld teulu a ffrindiau. Ond fel teulu rydym yn siarad ar y ffôn yn ddyddiol ac fel grŵp o ffrindiau yn cynnal cwis yn wythnosol dros Skype ac felly dal yn gallu gweld a chymdeithasu mewn ffordd wahanol.”

Fy mhrofiad i

“Dwi’n berson cymdeithasol, yn berson sydd yn cadw fy hun yn brysur ac yn berson sy’n mwynhau crwydro boed hynny ym mro fy mebyd neu dramor ac felly mae’r cyfyngiadau presennol yn dipyn o garchar i rywun fel fi. Roedd gen i, fel sawl un dwi’n siŵr, gynlluniau mawr ar gyfer 2020. Oni’n edrych ymlaen i weld dwy o fy ffrindiau agosaf yn priodi, bod yn forwyn briodas, mwynhau’r Partïon Plu, y ‘Steddfod a’r Royal Welsh, prynu tŷ a pharhau i drafaelio led led y byd heb sôn am y nosweithiau allan a’r prydau bwyd di ddiwedd yng nghwmni teulu a ffrindiau. Mae’r cynlluniau rheini bellach i gyd ar stop.

Dwi ‘di gwerthfawrogi adra gymaint mwy dros yr wythnosau diwethaf a dwi’n ddiolchgar iawn bod amrywiaeth o lwybrau cerdded ar stepen y drws. Nid pawb sydd mor ffodus. Mae gen i griw o ffrindiau a chydweithwyr sydd wedi fy nghadw i fynd yn ystod dyddiau anodd a hynny ar brydiau yn ddiarwybod iddynt.

Mae unrhyw un sydd yn fy nabod i’n dda, yn gwybod mod i yn hoff iawn o drefn ac yn hoff iawn o gynllunio ymlaen llaw. Mae’r holl ansicrwydd yn peri peth gofid i mi ond dwi wir yn mwynhau’r rhyddid i fynd i gerdded, i ddarllen yn yr haul ac i wylio bocs sets heb fod yn gaeth i amser a heb orfod rhedeg o un lle i’r llall sydd yn codi’r cwestiwn, oedd fy normal i yn iach?

Dwi ddim yn meddwl y bydd ein bywydau ni byth yr un fath eto. Fe fydd rhai newidiadau yn sicr er gwell ond fe gymrith amser i ddygymod ag eraill ond am y tro, rhaid gwneud y gorau o’r sefyllfa gan obeithio y cawn ddychwelyd i normal newydd yn fuan.”

Rydym i gyd yn gobeithio y daw haul ar fryn yn hwyr yn hytrach na’n hwyrach ond tan hynny, edrychwch ar ôl eich gilydd, cadwch mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau a mwynhewch arlwy DyffrynNantlle360.