Clwb newydd i bontio’r cenedlaethau

greta
gan greta

Os ydych chi dros 50 oed neu yn berson ifanc rhwng 12 ac 16 oed, gallwch chi fanteisio ar gymryd rhan mewn clwb newydd sbon sy’n dechrau yn Nyffryn Nantlle.

Mae’r Clwb Ffeirio yn gyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau celf a chrefft cymunedol i bontio’r cenedlaethau.

Mae’n gyfle gwych i fwynhau cyd-greu dan arweiniad yr artistiaid Lora Morgan a Mari Gwent. Bydd pob sesiwn yn wahanol gan ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau newydd, bod yn greadigol, dod i adnabod ein gilydd yn well ac i rannu profiadau a sgiliau.

Y bwriad yw rhoi cyfle i bobl hyn ac ifanc ein cymdeithas i ddod at ei gilydd i gymdeithasu a rhannu sgiliau mewn awyrgylch braf.

Yn ogystal â hyn, cewch hefyd baned a theisen yn ystod y sesiynau.

A’r peth gorau am hyn i gyd…. mae o i gyd am ddim! Felly dewch yn llu bobl Dyffryn Nantlle- dim i’w golli a lot i’w ennill.

Sesiwn cyntaf dydd Sadwrn yma- 18/01/2020 am 10yb yn Yr Orsaf, Penygroes.

Mwy o fanylion ar y ddolen facebook yma- https://www.facebook.com/events/1296465617211896/ neu i archebu lle ffoniwch- 01286 882968 / 07410 982467 neu ebostio- greta@yrorsaf.cymru.