Cian Green yn torri record codi pwysau Cymru

Mae’r bachgen o Ddyffryn Nantlle yn aneli i gynrychioli Cymru yn ei gamp.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Llun gan Cian Green

Dechreuodd diddordeb Cian Green o Ddyffryn Nantlle mewn codi pwysau tra roedd yn hyfforddi gyda Chlwb Rygbi Caernarfon.

Ar ôl mynychu rhai o’r sesiynau codi pwysau dechreuodd y bachgen 16 oed gystadlu mewn cystadlaethau codi pwysau, ac mae newydd newydd dorri record o dan 17 Cymru yn y ‘120kg Clean & Jerk’.

Rhwng ei ddiddordeb mewn rygbi a’i sesiynau hyfforddi mae’n brysur iawn, ond dyma gyfle i ddod i adnabod y bachgen sy’n aneli i gynrychioli Cymru yn ei gamp.

 

Beth yw Clean and Jerk?

Mae codi pwysau Olympaidd yn wahanol i fathau eraill o godi pwysau.

Mae’r gamp yn cynnwys dau fath o lifft, SNATCH a CLEAN AND JERK.

Rydych chi’n cael tri ymgais i godi y pwysa rydych chi wedi rhoi lawr ar y papur.

 

Sut mae’n teimlo i dorri record o dan 17 Cymru yn y “120kg Clean & Jerk”

Maen teimlon wych, ac yn bleser i weld fy enw naill ochr a nifer o bobol llwyddiannus.

 

Heblaw am godi pwysau beth yw dy ddiddordebau a sut wyt ti’n treulio dy amser?

Dwi’n chwarae rygbi i dîm dan 16 Caernarfon ac i ieuenctid Caernarfon.

 

Pa ymadrodd ti’n ei ddefnyddio’n rhy aml?

Aye, iawn met?

 

Beth yw’r wers orau i ti ddysgu erioed?

Disgyblaeth o’r meddwl a’r corff.

 

Pwy sydd wedi cael y dylanwad mwyaf arnat ti?

Dad, mi ddechreuais fynd i’r ystafell ffitrwydd gyda fo pan oeddwn i’n iau, ac mae o wedi dysgu llawer o bethau i mi dros y blynyddoedd.

 

Rho syniad i ni o dy wythnos arferol yn hyfforddi

Nos Lun – Mynd i’r ystafell bwysau ym Mhlas Silyn, i wneud gwaith arferol ar y corff – chest, bi-seps, cefn ayyb.

Nos Fawrth – Ymarfer Codi Pwysau Olympaidd gyda fy hyfforddwr, Dave Jones, yng Nghanolfan Brailsford.

Nos Fercher – Squatio a deadliftio ym Mhlas Silyn.

Nos Iau – Ymarfer rygbi.

Dydd Gwener – Gorffwys.

Dydd Sadwrn – Os oes cystadleuaeth yn dod i fyny fydda i fel arfer yn ymarfer.

Dydd Sul – Dwi’n chwarae rygbi i dîm dan 16 Caernarfon.

 

Pa gystadleuaeth sydd nesaf?

Y nod yw ennill cystadleuaeth Prydain mewn cwpwl o fisoedd a chyrraedd y tri uchaf yn y gystadleuaeth “Welsh Seniors”.

 

Ble wyt ti’n gweld dy hunan ymhen 10 mlynedd?

Dwi’n gobeithio gweld fy hun yn un o’r athletwyr gora ym Mhrydain, dwi’n anelu at Gemau’r Gymanwlad 2026.

Ond, cyn hynny dwi eisiau cynrychioli Cymru mewn cystadleuaeth fawr!