Cerdd i’w thrysori am yr hên Siop Griffiths

greta
gan greta

Cyn i’n bywydau ni gyd newid o ganlyniad i Covid-19, cafwyd noson arbennig o farddoniaeth yn Yr Orsaf ym Mhenygroes yng nghwmni Karen Owen ac Aled Jones Williams.

Ar nos Sul, 15ed o Fawrth daeth criw o bobl i’r Orsaf i wrando ar y beirdd yn adrodd eu cerddi a darnau o farddoniaeth unigryw. Dyma’r noson farddoniaeth cyntaf i gael ei gynnal yno ac roedd yn amlwg bod pawb wedi mwynhau yn arw.

Cafwyd amryw o gerddi yn sôn am amryw o bethau gwahanol gan gynnwys un arbennig iawn yn rhoi darlun perffaith o’r hên Siop Griffiths gan Karen Owen.

Llwyddodd Karen i bortreadu’r siop yn union fel yr oedd hi ers talwm gan wneud i’r gwrandawyr uniaethu’n llwyr.

Braf yw cael darn o farddoniaeth unigryw a gwerthfawr i’w gadw fel atgof o’r hên Siop Griffiths ac ymfalchio yn y ffaith bod yr adeilad wedi cael ail-fywyd er mwyn creu stori newydd yn ei hanes.

Pwy a wyr, efallai mewn 100 mlynedd bydd rhywun arall yn ’sgwennu cerdd i bortreadu’r Orsaf fel mae hi rwan?

Gallwch weld y gerdd ar dudalen facebook neu instagram Yr Orsaf hefyd.