Canolfan Ailgylchu yn cau oherwydd gwyntoedd cryfion

Cyngor Gwynedd yn ymddiheuro am yr anghyfleustra.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Bu rhaid cau canolfan Ailgylchu Caernarfon ddydd Mawrth (Ionawr 7) oherwydd gwyntoedd cryfion yn yr ardal.

Mae Cyngor Gwynedd wedi ymddiheuro am yr anghyfleustra a dywedodd llefarydd ar ei rhan nad oedd modd cadarnhau pryd bydd y ganolfan Ailgylchu yn ailagor, gan ddweud mai “diogelwch y cyhoedd oedd prif flaenoriaeth y Cyngor wrth ddewis i gau’r ganolfan”.

Ydych chi wedi cael eich effeithio gan y gwyntoedd cryfion?

Cysylltwch â  ni drwy ein cyfrifon cymdeithasol @Bro__360 , neu gadewch eich sylwadau isod.