gan
Ohebydd Golwg360
Bu rhaid cau canolfan Ailgylchu Caernarfon ddydd Mawrth (Ionawr 7) oherwydd gwyntoedd cryfion yn yr ardal.
Mae Cyngor Gwynedd wedi ymddiheuro am yr anghyfleustra a dywedodd llefarydd ar ei rhan nad oedd modd cadarnhau pryd bydd y ganolfan Ailgylchu yn ailagor, gan ddweud mai “diogelwch y cyhoedd oedd prif flaenoriaeth y Cyngor wrth ddewis i gau’r ganolfan”.
♻️ Mae Canolfan Ailgylchu Caernarfon wedi gorfod cau heddiw oherwydd gwyntoedd cryfion. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra. ♻️ pic.twitter.com/YF7zba6hHm
— CyngorGwyneddCouncil (@CyngorGwynedd) January 7, 2020
Ydych chi wedi cael eich effeithio gan y gwyntoedd cryfion?
Cysylltwch â ni drwy ein cyfrifon cymdeithasol @Bro__360 , neu gadewch eich sylwadau isod.