“Cofiwch am y rhai sydd wedi cadw’r wlad i fynd” ar ôl yr argyfwng yma

Sut mae bywyd wedi newid i ni ar y fferm yn ystod yr wythnosau diwethaf.

gan Mari Wyn Hughes

Dwi’n ysgrifennu’r darn hwn rhwng y tripiau rheolaidd o amgylch y defaid a’r ŵyn, yn wir, mae’r wyna hir hwn bron â dod i ben i mi, ond tydi gwirionedd cyfyngiadau’r byd ehangach ymhell o ddod i derfyn.

Ffermwr dwi, yn cadw defaid a gwartheg sugno ac yn dod i ben yn araf bach â thymor prysur yr wyna, ond ni fu hwn yn dymor wyna arferol o bell ffordd.

Yn wir, mi oeddhunanynysuwedi cychwyn yn gynt na phawb arall i ni gan ein bod, fel teulu, wedi penderfynu hunanynysu ymhell cyn iddo ddod yn orfodaeth. Roedd hyn yn golygu gwneud yn siŵr ein bod yn sicrhau cyflenwad o fwyd a meddyginiaeth i’r da byw, a chau giât lôn i atal ymwelwyr i’r fferm. Cam llym, ond hanfodol.

Wrth reswm, mae gofyn archebu nwyddau amaethyddol dros y ffôn a pheidio dod allan o’r cerbyd pan fyddwn ni’n eu casglu er mwyn diogelu gweithwyr y safleoedd hyn.

Y bobol yma sydd yn cyflenwi’r diwydiant amaethyddol, sydd yn ei dro yn cadw bwyd ar y silffoedd.

Mae’r un gofynion yn bodoli yn ein Marchnadoedd Da Byw, ble mae gofyn i ni aros yn ein cerbydau tan yn barod i ddadlwytho ein hanifeiliaid ac yno ymadael a’r safle gan adael ein hanifeiliaid yn nwylo’r arwerthwyr.

Teimlaf yn gryf bod hyn yn her i ffermwyr gan fod y mart yn lle cymdeithasol, a bod pawb yn hoffi gweld yr anifeiliaid maent wedi gweithio mor galed i’w magu yn mynd o dan y morthwyl. Ond yn y pen draw mi ydan ni yn lwcus bod y gwasanaeth dal ar gael i ni fel amaethwyr ac os mai dyma’r drefn i’n cadw ni, staff y mart a’r prynwyr yn saff, bydd rhaid dal ati.

Rydym yn byw mewn cornel hardd iawn o Gymru fach, ond yn ystod yr wythnosau diwethaf mae hyn wedi achosi ambell broblem i ni fel diwydiant, a’r prif un yw llwybrau cyhoeddus.

Mae 1,479 milltir o lwybrau cyhoeddus ym Mharc Cenedlaethol Eryri, ac yn amlach na dim rydym yn falch o gael croesawu pobol o agos a phell i weld ein golygfeydd godidog.

Ond, gan gofio mai tir preifat yw’r Parc Cenedlaethol, mae sawl un wedi anwybyddu’r galw i aros adref er mwyn cael troedio llwybrau cyhoeddus drwy ein ffermydd, gan agor a chau sawl giât ar eu ffordd. Yn wir, roeddwn yn agor a chau dau ddeg dau o giatiau ar un tro o amgylch y caeau pan oedd yr wyna yn ei anterth a hyn tair neu bedair gwaith y dydd. Faint o bobol oedd wedi gafael yn y giatiau hyn cyn i mi eu hagor?

Fel sawl amaethwr arall, mae gen i ddau o blant bach ifanc – Myfyr sy’n dair a hanner, a Lina sy’n 10 mis – oed ac mae’r ddau wedi treulio llawer iawn o oriau yn wyna ac yn porthi hefo fi a’u tad Bryn.

Mae Myfyr yn gweld chwith mawr heb yr ysgol, ond yn ystod y cyfnod sydd ohoni mae’n rhaid gwneud y gorau o’r sefyllfa a gwneud ein gorau i barhau â’i addysg gartref, sydd yn sialens ynddo’i hun. Dwi’n siŵr gall sawl rhiant uniaethu â mi!

Un o’r heriau mwyaf dwi wedi’i wynebu yw medru parhau i gael neges bwyd i’r tŷ. Yn wir, does na’m ‘slot’ i’w gael yn nunlle, ac oni bai am ychydig nwyddau oddi ar y we, dwi wedi dibynnu’n llwyr ar siopau lleol er mwyn cael bwyd i’ra heb fod ar gyfyl archfarchnad ers dros chwech wythnos arferiad fydda’i yn gobeithio parhau â hi yn dilyn y cyfnod hwn.

Mae cwmnïau lleol wedi achub y dydd i sawl un dwi’n siŵr. Y cwmnïau hyn sydd yn ein cefnogi ni fel ffermwyr, a gobeithio gwnaiff bobol gofio am y cwmnïau hyn sydd wedi sefyll yn y bwlch i barhau i ddarparu gwasanaeth a bwyd i ni yn ystod y cyfnod anodd hwn, a’u cefnogi a’u cryfhau yn y dyfodol.

Ond dwi’n meddwl mai’r her fwyaf un i fi yn bersonol ydi methu gweld teulu a ffrindiau.

Dwi wedi arfer gweld fy rhieni Bryn a Glenda a ‘mrawd Gerallt bob dydd gan ’mod i’n gweithio hefo nhw, ond gan eu bod yn hunanynysu yn eu cartref sef Ffridd, Nantlle a minnau yn gofalu am ein daliad yn Mawr, Treflys tra’n byw yn Draenogan Mawr gyda Bryn fy mhartner a’r teulu, mae’n anodd iawn methu cael eu gweld yn ddyddiol, er fy mod i’n gwybod eu bod yno os oes problem, dim ond iddyn nhw gadw ddigon pell!

Dwi’n teimlo’n lwcus iawn o gyfryngau cymdeithasol er mwyn medru cyfathrebu a chael gweld Gwawr fy chwaer a’i theulu bach ym Mhen Llŷn. Yn wir, tydi o rioed wedi teimlo mor bell. Ond er mor anodd yw hi i fi, ac i bawb arall, mae’n well gen i fethu fy nheulu am ychydig fisoedd os oes raid na pheidio eu gweld nhw eto.

Felly’r neges gen i fel amaethwr ifanc sy’n parhau i weithio pob awr ac ym mhob tywydd i gynhyrchu bwyd i chi ydi daliwch ati i barchu’r rheolau, mi ddown ni drwyddi, a chofiwch am y rhai sydd wedi parhau i gadw’r wlad i fynd er mwyn adeiladu cymdeithas ac economi gryfach i’r dyfodol.