Bocsus Dolig

Gallwn roi arian yn lle bocsus

angharad tomos
gan angharad tomos

Fel rheol, ddechrau Tachwedd, rydym yn llenwi bocsus sgidiau ac yn gwneud y daith gyfarwydd i Gapel Soar lle cant eu trefnu yn ofalus a’u hanfon i wahanol rannau o’r byd. Fel cymaint o bethau eleni, ni fydd pethau yr un fath y tro hwn. Ni fydd bocsys yn cael ei casglu o Soar Penygroes eleni. Ond dydi hynny ddim yn ein hatal rhag cyfrannu. Yn ystod yr Wyl, mae pob math o wahanol elusennau yn gofyn am ein harian, a byddant yn falch o unrhyw gyfraniad.