Barod i fentro?

Mae Siop Griffiths eisiau gwybod beth mae pobl ifanc yn meddwl am fentro

Prosiect Pobl Ifanc Fentrus Dyffryn Nantlle

Pwy sy’n gwybod pa fath o siap fydd ar ein economi ar ol COVID-19. Ond mae Siop Griffiths eisioes yn meddwl sut allen nhw helpu pobl ifanc i ddatblygu syniadau eu hunain.

Mae’r fenter yn edrych ar ffyrdd o gefnogi pobl ifanc i fentro yn yr ardal, a gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu synaidau a busnesau. Y cam cyntaf yw casglu gwybodaeth am beth mae pobl ifanc rhwng 14 a 25 yn meddwl am fentro, beth fyddai’n eu hatal, a pha gefnogaeth mae nhw eisiau.

I gyfrannu at y sgwrs llenwch yr holiadur fan hyn: https://www.surveymonkey.co.uk/r/VCD7D2Z