Kim Hon – Band Newydd Gorau Gwobrau’r Selar

Band o Ddyffryn Nantlle yn ennill gwobr Band neu Artist Newydd Gorau yn Gwobrau’r Selar eleni

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Llun: Kim Hon

Y band Kim Hon o Ddyffryn Nantlle enillodd gwobr Band neu Artist Newydd Gorau yn Gwobrau’r Selar yn Aberystwyth dros y penwythnos.

Iwan Fôn, Cai Gruffydd, Iwan Llyr, Siôn Gwyn a Caleb Rhys yw aelodau’r band, a dros y flwyddyn diwethaf maen nhw wedi bod yn rhyddhau cerddoriaeth ar Label Libertino.

 

Enillwyr Gwobrau’r Selar 2020

Cafodd 13 o wobrau eu dyfarnu dros y penwythnos.

Y band Gwilym o Wynedd a Môn oedd prif enillwyr Gwobrau’r Selar, a hynny am yr ail flwyddyn yn olynol.

Enillon nhw dair gwobr i gyd, sef gwobr y Gân Orau (\Neidia/), y Fideo Gorau (Gwalia) a gwobr y Band Gorau.

Fleur De Lys gipiodd y wobr am y Record Hir Orau (O Mi Awn am Dro), a Papur Wal enillodd yn y categori Record Fer Orau (Lle yn y Byd Mae Hyn?).

Elis Derby ddaeth i’r brig fel Artist Unigol Gorau’r flwyddyn, a Tafwyl yn cipio’r wobr am y Digwyddiad Byw Gorau.

Clwb Ifor Bach gafodd ei enwi’n Hyrwyddwr Annibynnol Gorau.

 

Darllenwch fwy am benwythnos Gwobrau’r Selar ar BroAber360:

Y band Gwilym ac eraill ar lwyfan Gwobrau'r Selar 2020

‘Penwythnos cofiadwy arall’ – Gwobrau’r Selar

Gohebydd Golwg360

Gwilym yn brif enillwyr Gwobrau’r Selar am yr ail flwyddyn yn olynol.