Aled Williams yn ymuno gyda Clwb pêl-droed Nantlle Vale

CPD Nantlle Vale

Begw Elain
gan Begw Elain
A3468669-6F2B-46F5-A464

?Aled Williams yn ymuno gyda’ clwb.⚪️

Aled yn gefnwr talentog sydd yn ychwanegu llawer o egni i’r tîm! 

Aled wedi cael cyfnodau o chwarae i Lanberis a Phorthmadog yn y ‘Welsh Alliance’ ac yn ymuno o’i ddiweddar glwb Caernarfon. 

Dyma eiriau y rheolwr Sion Eifion ⬇️

“Rwy’n hynod falch o gael cyhoeddi fod Aled yn ymuno a’r Fêl. O fod wedi gweithio gyda Aled yn y gorffennol rwy’n gwybod ei fod yn chwaraewr talentog sydd a dyfodol disglair yn y gêm. Tra’n cryfhau ein amddiffyn, mae Aled hefyd yn weithgar iawn ac yn mynd i ychwanegu llawer o egni i’r tîm.” 

Croeso i’r clwb Aled! ?⚽️?