Proffiliau Ymgeiswyr Arfon – Y Ceidwadwyr

gan Morgan Siôn Owen

Gonul Daniels yw ymgeisydd y Ceidwadwyr yn Arfon. Un o Lundain yw Gonul, sydd wedi cael gyrfa mewn peirianneg dechnolegol. Roedd hi’n credu y dylai pobl sydd â ‘phrofiad yn y byd go iawn’, fod yn wleidyddion, ar ôl gweld anghyfiawnder cymdeithasol yn y system addysg. Felly, mi agorodd hi ysgol ei hun, gan gynnig addysg i 240 o blant, a dod â £7.5 biliwn o fuddsoddiad i’r gymuned leol. Dyma brif flaenoriaethau’r Ceidwadwyr yn yr Etholiad Cyffredinol ar y 12fed o Ragfyr,2019;

  1. Brecsit

Wrth edrych ar y newyddion, neu ddarllen y papurau newydd, mae hi bron yn amhosibl anwybyddu Brecsit a’r sefyllfa gymhleth sydd wedi dod oherwydd awydd brwd y Ceidwadwyr i adael yr Undeb Ewropeaidd. Dyma beth mae’r blaid yn ei gredu;

  • Dylai Prydain adael yr UE erbyn diwedd mis Ionawr, 2020, gan eu bod yn credu y byddai’n magu mwy o gyfleoedd i ni.
  • Sicrhau ein bod yn dal yn delio hefo’r UE, ond yn blaenoriaethu gwledydd eraill er mwyn dod â’r pethau yr ydym eu hangen i’n gwlad megis dillad a bwyd.
  • Atal pobl o wledydd eraill rhag dod i fyw i Brydain, oni bai eu bod yn gallu profi eu bod yn gallu gweithio yma.

 

  1. Iechyd cenedlaethol a gwasanaethau gofal.

Maen nhw’n bwriadu;

  • Gwario llawer o arian i sicrhau bod digon o staff yn ein hysbytai a chartrefi gofal.
  • Adeiladu mwy o ysbytai, a sicrhau parcio am ddim i bawb.
  • Cyflogi 20,000 mwy o swyddogion heddlu dros yr 3 mlynedd nesaf yng Nghymru a Lloegr.
  • Sicrhau fod pobl o wledydd eraill yn talu i gael defnyddio’r GIG.

 

  1. Yr amgylchedd

Yn debyg i’r pleidiau eraill, mae’r Ceidwadwyr yn pryderu am ddyfodol ein hamgylchedd os ydy’r lefelau carbon yn dal i gynyddu. Felly, maen nhw’n addo;

  • Gwario mwy o arian i arbed tai trigolion Prydain rhag llifogydd pan fo llawer o law.
  • Helpu llawer o bobl dlawd arbed arian ar eu biliau gwresogi drwy wneud i dai ddefnyddio llai o egni.
  • Gwresogi’r tai newydd i gyd gydag egni naturiol fel gwynt, dŵr a’r haul.
  • Hybu ailgylchu, a sicrhau bod pobl yn cael arian yn ôl os ydyn nhw’n dychwelyd poteli i siopau.

 

  1. Gofal plant ac addysg
  • Rhoi cymorth i rieni drwy roi arian i’r ysgolion i edrych ar ôl y plant ar ôl i’r ysgol orffen, ac yn ystod y gwyliau.
  • Rhoi mwy o arian i rieni sydd yn ceisio am swyddi i edrych ar ôl eu plant.
  • Rhoi mwy o arian i ysgolion gyllido mewn gwersi celf, cerddoriaeth a chwaraeon.
  • Cyflogi 20,000 yn fwy o swyddogion heddlu dros yr 3 mlynedd nesaf yng Nghymru a Lloegr.

 

Crëwyd proffiliau ymgeiswyr Arfon gan Brengain Glyn, Tomos Mather, Tomos Parry a Morgan Siôn Owen (Ysgol Tryfan).