Proffiliau Ymgeiswyr Arfon – Plaid Brexit

Proffil Plaid Brexit yn Arfon

gan Tomos Gwynne Parry

Dyma dro Plaid Brexit i ddenu ein sylw ym mhroffil ymgeiswyr Arfon.

Gary Gribben sydd yn cynrychioli Plaid Brexit yn Arfon. Blaenoriaeth Plaid Brexit yw gadael yr Undeb Ewropeaidd, a throsglwyddo’r Brexit y pleidleisiodd 17.4 miliwn o bobl Prydain amdano.  Mae gweithredu ar y gorchymyn mwyaf poblogaidd yn hanes Prydain yn hanfodol i adfer ffydd yn ein democratiaeth. Ers i’r Blaid gael ei sefydlu ar y 23 o Dachwedd, 2018, mae’r blaid hon yn derbyn cefnogaeth gynyddol, ac mae ganddi tua 115,000 o aelodau. Dyma ei phrif flaenoriaethau yn yr etholiad cyffredinol eleni;

 

  1. ‘The Brexit Dividend’

Mae Plaid Brexit yn cefnogi’r polisïau sydd wedi’u hanelu at adfywiad rhanbarthol, gan gefnogi sectorau allweddol o’r economi a thargedu buddsoddiadau yn ieuenctid, teuluoedd a busnesau Prydain. Er mwyn sicrhau hyn, maen nhw’n addo:

  • Codi £200 biliwn drwy:
  • Cadw’r £13 biliwn o gyfraniad blynyddol yr UE
  • Adfer ein £7 biliwn o’r EIB
  • Ailgyfeirio 50% o gyllideb y cymorth tramor ‘foreign aid’ (£40 biliwn ar ôl tymor pum mlynedd).
  • Buddsoddi o leiaf £50 biliwn mewn cynlluniau rheilffyrdd a lonydd lleol, yn y rhanbarthau llai breintiedig.
  • Buddsoddi yn y bobl ifanc: diddymu llogau ar fenthyciadau i fyfyrwyr, a fydd yn gwella cyfradd adferiad dyledion.
  1. Buddsoddi tuag at y dyfodol

Mae Plaid Brexit yn cefnogi buddsoddiadau yng ngwasanaethau cyhoeddus, yr amgylchedd, pysgota, a diwydiannau strategol – wedi’i ariannu’n rhannol gan dynnu’r cyfraniadau i’r UE yn ôl. Er mwyn llwyddo, mae Plaid Brexit yn addo;

  • Buddsoddi £2.5 biliwn yn ein cymdeithasau pysgota ac arfordirol.
  • Buddsoddi yn ein hamgylchedd: plannu miliynau o goed i ddal CO2.
  • Ailgylchu ein gwastraff ni yma ym Mhrydain, a’i chyhoeddi ei bod yn anghyfreithlon i’w allforio ar draws y byd i gael ei losgi, ei gladdu neu ei daflu i’r môr.
  • Buddsoddi yn y GIG a gwasanaethau cymdeithasol: mae angen buddsoddi yn y rhain er mwyn cael mwy o swyddi.

 

  1. Gostwng y gost o fyw

Yn ôl y blaid, mi fyddai Brexit yn rhoi’r cyfle i ostwng y gost o fyw mewn teulu sy’n gweithio. Credant fod yr effaith y mae polisïau’r UE yn ei gael ar drigolion Prydain yn fawr ac yn negyddol iawn, ar draul swyddi ac yr unigolion tlotaf o fewn ein cymdeithasau.

  • Lleihau tariffiau: mae 20% o fwyd y DU yn deillio o’r tu allan i’r UE. Byddai gorfodi brexit yn golygu y gallai’r tariffiau gael eu gostwng i ddim, ar rai bwydydd, dillad ac esgidiau penodol.

 

  1. Amddiffyn ffiniau Prydain a’i phobl

Byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn galluogi i ni reoli a gwarchod ein diogelwch cenedlaethol a’n ffiniau ni, yn rhydd o ymyrraeth a pholisïau’r UE am fewnfudo.

  • Tynnu’n ôl o’r ‘European Defence Union’.
  • Lleihau’r mewnfudo blynyddol, gan orfodi system bwyntiau sydd yn ddall i wreiddiau ethnig, gan estyn croeso i’r mewnfudwyr dilys.
  • Cynyddu’r nifer o swyddogion heddlu – mwy o heddlu gweladwy ar ein strydoedd.
  • Targedu’r troseddwyr sy’n delio mewn cyffuriau, gangiau a thaclo’r broblem hefo troseddau cyllyll.

 

Crëwyd proffiliau ymgeiswyr Arfon gan Brengain Glyn, Tomos Mather, Tomos Parry a Morgan Siôn Owen (Ysgol Tryfan).