Pentref Di-Blastig

gan Ben Gregory

Mae ymdrech ar y gweill i wneud Penygroes yn bentref di-blastig. Ac un o arweinyddion yr ymgyrch yw Joshua Williams, disgybl yn Ysgol Dyffryn Nantlle.

Yn gynharach eleni dangosodd Cyngor Gwynedd ffilm gan Joshua, sydd yn 12 oed, yng nghynhadledd Gwynedd 2030.

Mae Joshua eisiau perswadio pawb ohonom i leihau ein defnydd o blastig, oherwydd yr effeithiau gwael ar yr amgylchedd.

Nid Josh yw’r unig un o Ddyffryn Nantlle sydd wedi ein rhybuddio am beryglon plastig ar ffilm. Llynedd darlledodd S4C a Hansh ffilm gan y gwneuthwr ffilm ifanc Mari Huws o’r enw Arctig, Môr o Blastig?

Y mis diwethaf dechreuodd Mari ar antur newydd, yn gweithio fel warden ar Ynys Enlli.